Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01467
Math o Gytundeb
Cyfnod Penodol
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
26 Ebr 2026
Dyddiad Cyfweliad
18 Mai 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol o 16 mis yw hon i gyflenwi am gyfnod o absenoldeb mamolaeth, sydd ar gael o'r 1 Awst 2026.

Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe'n darparu cyfres o raddau israddedig sefydledig yn y Gyfraith yn ogystal â rhaglenni LLM arbenigol gan gynnwys LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol ac LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol. Rydym yn gymuned academaidd ffyniannus o fyfyrwyr ac ysgolheigion, sydd â ffocws ar ddarparu ystod o gyfleoedd dysgu drwy brofiadau i'n myfyrwyr, gan gynnwys y cyfle i wirfoddoli yn ein Clinig y Gyfraith. Rydym am benodi Cymrawd Addysgu dros dro, sy'n gallu cyflwyno addysgu mewn Cyfraith Gyhoeddus a modiwlau sylfaenol eraill y Gyfraith. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno addysgu, darparu cymorth i fyfyrwyr ac ymgysylltu mewn gweithgareddau eraill i gefnogi'r rhaglenni LLB ac Ysgol y Gyfraith yn ehangach.

Cymrawd Addysgu (Dim llwybr penodol ond yn gyfrifol yn bennaf am ddarparu cymorth dysgu, addysgu, asesu, a chymorth i fyfyrwyr a chymorth gweinyddol)

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gofynnir i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein gan ddarparu tystiolaeth yn erbyn y meini prawf hanfodol yn y ddogfennaeth recriwtio. Dylai ymgeiswyr hefyd atodi'r canlynol i'w cais:

  • Curriculum Vitae

 

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr