- Rhif y Swydd
- SU01463
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £26,338 i £29,179 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 22 Maw 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 26 Maw 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Lucy Williams Lucy.v.williams@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Gan weithio yn nhîm Mynd yn Fyd-eang sy’n rhan o Ymgysylltu Byd-eang, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi gweithgarwch mewn perthynas â myfyrwyr cyfnewid sy'n ymweld ag Abertawe a’r rhai hynny sy'n mynd dramor.
Mae Prifysgol Abertawe'n cydnabod y manteision sylweddol i fyfyrwyr sy'n cael profiad rhyngwladol wrth dreulio semester, blwyddyn neu haf dramor. O ganlyniad, mae'r Brifysgol wedi rhoi strategaeth uchelgeisiol ar waith i gynyddu nifer ei myfyrwyr sy'n manteisio ar y 'Cyfleoedd Byd-eang' hyn. Mae'r Brifysgol hefyd yn croesawu myfyrwyr o brifysgolion partner rhyngwladol sydd am dreulio rhan o'u gradd yn astudio yn Abertawe fel myfyrwyr cyfnewid neu ymweld. Mae tîm Mynd yn Fyd-eang yn gyfrifol am gydlynu'r gweithgarwch hwn.
Gan weithio yn nhîm Mynd yn Fyd-eang, bydd deiliad y swydd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi gweithgarwch mewn perthynas â myfyrwyr cyfnewid sy'n ymweld ag Abertawe a’r rhai hynny sy'n mynd dramor. Bydd yr unigolyn hwn yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rhagweithiol a phroffesiynol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid i fyfyrwyr, cydweithwyr a phartneriaid rhyngwladol.
Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio'n annibynnol, yn ogystal â mewn tîm, a bydd angen i chi fod yn drefnus, yn drylwyr, yn hyblyg a gallu dangos sgiliau cyfathrebu, TG a sylw i fanylion ardderchog.
Dyma gontract am gyfnod penodol tan 31 Rhagfyr 2026
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr