Cynorthwy-ydd Ymchwil yn Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS)
- Rhif y Swydd
- SU01462
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 2 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 28 Ebr 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Melitta McNarry m.mcnarry@swansea.ac.uk
- Ioan Humphreys I.Humphreys@Swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) yn chwilio am Gynorthwy-ydd Ymchwil llawn cymhelliant a hyblygrwydd i gefnogi'r gwaith o ddarparu ymchwil gymhwysol o safon ar draws ei rwydwaith ledled Cymru. Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at waith sy'n dylanwadu ar bolisi ac ymarfer i wella gweithgarwch corfforol, iechyd a lles ledled Cymru.
Mae hon yn rôl amrywiol a chydweithredol sy'n cyfuno cyflawni ymchwil, ymgysylltu â rhanddeiliaid, casglu a dadansoddi data, a chydlynu prosiectau. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr academaidd, partneriaid cymunedol a rhanddeiliaid cenedlaethol i gefnogi'r gwaith o ddylunio, gweithredu a lledaenu gweithgareddau ymchwil a gwerthuso. Bydd cyfrifoldebau'n cynnwys cydlynu grwpiau ffocws, cyfweliadau a gweithdai; cefnogi recriwtio cyfranogwyr ac ymgysylltu â nhw; rheoli logisteg a chyfathrebiadau prosiectau; casglu a dadansoddi data meintiol ac ansoddol; a chyfrannu at adroddiadau, cyflwyniadau ac allbynnau academaidd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus iawn, yn rhagweithiol ac yn gyfforddus wrth reoli sawl blaenoriaeth ar yr un pryd ar draws ffrydiau gwaith. Bydd ganddo sgiliau dadansoddol a chyfathrebu cryf a'r gallu i weithio'n sensitif ac yn effeithiol gyda chymunedau a phartneriaid amrywiol. Mae profiad o ymchwil dulliau cymysg ac ymrwymiad i ymchwil gynhwysol sy'n creu effaith yn hanfodol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe yng Nghanolfan Ymchwil A-STEM, ac ar draws partneriaeth WIPAHS a chyda rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae'r rôl yn cynnig cyfle ardderchog i gyfrannu at ymchwil sy'n creu effaith ac sy'n berthnasol i waith polisi mewn amgylchedd amlddisgyblaethol deinamig.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr