Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01457
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
24 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
31 Maw 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Y Genhadaeth: Adeiladu Seilwaith Data Deallus

Mae datblygiadau meddygol arloesol yn aml yn cael eu gohirio gan seilwaith data tameidiog. Mae VELA (Echdynnu Amryddawn a Haniaethu Rhesymeg) yn cael ei adeiladu i ddatrys hyn trwy dri o alluoedd integredig:

  • Trefnu Ymholiadau Clyfar: Trosi ceisiadau data yn ymholiadau wedi'u hoptimeiddio ar draws sawl Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TREs)
  • Integreiddio Gwybodaeth Parth: Cipio a dod â chanllawiau arbenigol ynghylch ansawdd data, cyfyngiadau ac arferion gorau i’r amlwg
  • Adrodd Ansawdd Awtomataidd: Sicrhau bod ymchwilwyr yn deall y data y maen nhw'n cael mynediad iddo a'i gyfyngiadau

Y canlyniad? Rhyngwyneb Python unedig i filiynau o gofnodion iechyd ar draws hafanau data mwyaf diogel y DU (e.e., SAIL, UK LLC, DataLoch), gyda mesurau diogelwch ansawdd ymchwil integredig.

Swydd peirianneg systemau yw hon, nid swydd ymchwil. Byddwch yn trawsnewid prototeip R swyddogaethol yn seilwaith Python gradd gynhyrchu a fydd yn pweru mentrau cenedlaethol gan gynnwys Nodau Iechyd Meddwl Llywodraeth y DU, DATAMIND, a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad.

Y Tîm: Cyflymder ac Effaith Uchel

Rydym yn gweithio ar gyflymder uchel gyda chylchoedd cyflawni iteraidd, wedi'u cefnogi gan sefydlogrwydd a bri sefydliad ymchwil Haen-1.

  • Grŵp Cydweithredol, Cyflawniad Uchel: Rydym yn rheoli dros £20M mewn cyllid ac yn cynnal safonau ansawdd uchel gyda chylchoedd cyflawni iteraidd.
  • Arweinydd y Tîm: Mae'r tîm dan arweiniad yr Athro Ann John, cyfarwyddwr DATAMIND ac NCSR, cadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio i Lywodraeth Cymru, aelod o SAGE, ac Ymddiriedolwr y Samariaid.
  • Partneriaeth Uniongyrchol: Byddwch yn Brif Bensaer Technegol ar y prosiect hwn, gan weithio mewn cydweithrediad agos â sylfaenydd y prosiect, Dr. Marcos DelPozo-Banos. Chi sy'n gyfrifol am y manylion technegol, am gynllunio'r daith a’i rhoi ar waith.
  • Posibiliad estyniad: Mae ein tîm wedi llwyddo i sicrhau cyllid parhaus ar gyfer aelodau blaenorol o'r tîm a oedd wedi perfformio'n dda, ac rydym yn rhagweld y bydd VELA yn parhau i ddatblygu y tu hwnt i gyfnod y contract cychwynnol.
  • Cymuned dechnegol: Er y byddwch yn brif bensaer VELA, byddwch yn rhan o'n cymuned ymchwil/peirianneg meddalwedd ehangach a bydd gennych fynediad at ein rhwydwaith helaeth (Llywodraeth, y GIG, cyrff ariannu).

Pwy ydych chi:

Sgiliau Technegol Hanfodol:

  • 3+ blynedd o brofiad o beirianneg meddalwedd broffesiynol gyda hanes blaenorol o greu systemau cymhleth sy'n hanfodol i'r genhadaeth.
  • Sgiliau Python arbenigol mewn dylunio gwrthrych-ganolog, datblygu llyfrgelloedd, a datblygu API (rydych chi'n adeiladu systemau gradd gynhyrchu, nid sgriptiau).
  • Profiad sylweddol o ddefnyddio cronfeydd data gyda chronfeydd data perthynol ar raddfa fawr, optimeiddio ymholiadau a modelu data.
  • Meddylfryd dylunio systemau i greu systemau aml-gydran wrth wahanu pryderon yn glir.
  • Manwl gywirdeb peirianneg gydag egwyddorion SOLID, profi cynhwysfawr, ac arferion dogfennaeth.

Eich meddylfryd:

  • Rydych chi'n hunangymhellol ac yn uchelgeisiol, wedi'ch cymell gan broblemau technegol heriol.
  • Rydych chi'n cydbwyso trylwyredd peirianneg â chyflawni pragmatig, yn ffynnu gyda pherchnogaeth dechnegol wrth gydweithio'n agos â rhanddeiliaid.
  • Rydych chi'n cael eich cymell gan awydd i adeiladu systemau sy'n hybu effaith ymchwil yn y byd go iawn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Cyfeiriwch at eich profiad a'ch cymhelliant perthnasol yn eich llythyr eglurhaol a rhowch ddolen i bortffolio cod neu GitHub (os yw ar gael).

Lleoliad a Ffordd o Fyw: Mantais Abertawe 

Mae Abertawe yn drysor cudd yn y DU. Rydym yn cynnig model hybrid hyblyg mewn dinas arfordirol gyda chost byw isel ac ansawdd bywyd eithriadol.

  • Natur ar garreg eich drws: Rydych chi funudau i ffwrdd o Benrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.
  • Amgylchedd o'r radd flaenaf: Byddwch wedi'ch lleoli yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sydd ar frig y DU am Amgylchedd Ymchwil (REF 2021).
  • Buddion: Yn ogystal â chael eich cyflog, byddwch yn mwynhau 31 diwrnod o wyliau blynyddol (ynghyd â gwyliau banc) a mynediad at Bensiwn USS, gyda chyfraniad sylweddol o 14.5% gan y cyflogwr.
Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr