Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01455
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£26,338 i £29,179 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
17 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Owain Howell O.W.Howell@Swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol o 2 flynedd yw hon, yn gweithio 14 awr yr wythnos.

Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn ysgol feddygaeth flaenllaw yn y DU. Gan gynnig amrywiaeth o gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, mae'r Ysgol Feddygaeth ar y brig yn y DU ar gyfer amgylchedd ymchwil, ac yn ail am ansawdd cyffredinol yr ymchwil, yn ôl data Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Mae ymchwil niwrowyddoniaeth yn Abertawe yn cynnwys uwch-ymchwilwyr, ymchwilwyr a darlithwyr sy'n gweithio i ddeall sylfeini biolegol ystod o glefydau niwroddirywiol a niwrolidiol. Byddwch yn darparu cymorth technegol a labordy i brosiectau sy'n ymchwilio i sylfaen niwrogemegol a biolegol celloedd i sglerosis ymledol - clefyd llidiol, dadfyelineiddiol a niwroddirywiol.

Byddwch yn cydweithio â chydweithwyr yn y tîm Ymchwil Niwrolidiol (grŵp Howell) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae ymchwil y grŵp yn canolbwyntio ar adnabod biofarcwyr ar gyfer cynnydd Sglerosis Ymledol. Byddwch yn ymdrin â samplau clinigol a phost-mortem mewn prosiectau gan ddefnyddio technegau staenio meinweoedd, patholeg ddigidol a dadansoddiad biofarcwyr hylif.  Byddai'r swydd 0.4 CALl hon (cyfwerth â 2 ddiwrnod yr wythnos) yn addas ar gyfer myfyriwr graddedig brwdfrydig sy'n llawn cymhelliant sydd ag uchelgeisiau i ddatblygu ei brofiad labordy mewn ymchwil i niwrowyddoniaeth.

Dylai ymgeiswyr feddu ar Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg, Ffiseg a/neu Fathemateg (neu brofiad cyfwerth).  Byddem yn croesawu ceisiadau gan unigolion brwdfrydig sydd â BSc neu MSc mewn pwnc sy'n gysylltiedig â’r Biowyddorau, ac sy'n awyddus i ddatblygu gyrfa mewn ymchwil fiofeddygol / niwrowyddoniaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arddangos tystiolaeth o ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau ac atebion proffesiynol, yn ogystal â dangos tystiolaeth o sgiliau trefnu a'r gallu i weithio'n unol ag amcanion y prosiect. Bydd hefyd angen sgiliau TG arnoch, gan gynnwys pob pecyn Microsoft Office, a sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig, y gallu i ddilyn gweithdrefnau sefydledig a dilyn protocolau'n drylwyr, a'r gallu i ddadansoddi a chyflwyno data gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd priodol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr