Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01453
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£26,338 i £29,179 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
23 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
30 Maw 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Dara Almeida Medina Dara.Almeidamedina@Swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd amser llawn am gyfnod penodol yw hon tan 16 Hydref i gyflenwi am absenoldeb mamolaeth.

Rydym yn chwilio am Weinyddwr Prosiect rhagweithiol a threfnus iawn i ymuno â DATAMIND am 6 mis i gyflenwi am absenoldeb mamolaeth. Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at raglen ymchwil iechyd meddwl o bwys cenedlaethol wrth ennill profiad gwerthfawr mewn amgylchedd cymhleth, aml-bartner.

Mae Learning Hub - Datamind yn hyb Ymchwil Iechyd Meddwl ar draws y DU ac yn rhaglen aml-bartner gwerth dros 7 miliwn sy'n dod ag 11 o brifysgolion, elusennau a phobl sydd â phrofiad byw ynghyd. Mae ein gwaith yn trawsnewid sut caiff data iechyd meddwl ei gyrchu a'i ddefnyddio i wella gofal, i ddylanwadu ar bolisi a chyflymu ymchwil i atal hunanladdiad a hunan-niwed.

Gan weithio'n agos gyda Rheolwr y Rhaglen, partneriaid ar draws y pedair Cenedl a'r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu, byddwch yn chwarae rôl ganolog mewn cefnogi llywodraethu'r prosiect, cydlynu rhanddeiliaid, adrodd a monitro ariannol. Byddwch yn helpu i sicrhau bod y rhaglen yn bodloni cerrig milltir allweddol, gofynion cyllidwyr ac amcanion strategol, wrth gynnal dogfennaeth gywir ar gyfer y prosiect a chefnogi cyfarfodydd a digwyddiadau.

Mae hon yn rôl hybrid ar Gampws Singleton, gan gynnig cyfuniad o weithio ar y campws ac o bell i gefnogi hyblygrwydd a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae'r rôl yn cynnig profiad proffesiynol gwerthfawr yn amgylchedd rheoli prosiectau Prifysgol Abertawe sydd ag achrediad yr APM, gan ddarparu dealltwriaeth o lywodraethu prosiect strwythuredig ac arferion cyflwyno, ochr yn ochr â phrofiad o gefnogi prosiect ymchwil a ariennir ar raddfa fawr a gweithio gyda phartneriaid ledled y DU.

Bydd y swydd hon yn addas ar gyfer rhywun sydd â sgiliau trefnu cryf, sy'n rhoi sylw i fanylder, a chanddo brofiad o weinyddu prosiect neu raglen, sydd eisiau ehangu ei brofiad yn y sector ymchwil ac addysg uwch.
Os ydych chi'n cael eich ysgogi gan waith sy'n cael effaith ystyrlon ar gymdeithas ac yn barod i gyfrannu at dîm cydweithredol, blaengar, rydym yn eich annog i gyflwyno cais.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr