- Rhif y Swydd
- SU01445
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £29,959 i £33,482 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Ystadau a Gwasanaethau Campws
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 28 Ebr 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 13 Mai 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
- Sarah Clifford s.j.clifford@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r tîm Gwasanaethau Masnachol i wneud y mwyaf o refeniw a photensial incwm yn y dyfodol gan gwsmeriaid mewnol ac allanol trwy weithgarwch datblygu busnes wedi'i dargedu, ymgysylltu â chwsmeriaid, cymorth gwerthu a marchnata wedi'i ffocysu.
Bydd y rôl yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr gweithredol a masnachol i helpu i nodi cyfleoedd newydd, cefnogi datblygiad piblinellau gwerthu, a sicrhau bod gweithgarwch marchnata a chyfathrebu wedi'i alinio'n glir â blaenoriaethau masnachol a chynhyrchu incwm.
Y prif ffocws fydd ar y Gwasanaethau Masnachol, gan gynnwys arlwyo, cynadleddau, chwaraeon, manwerthu, lletygarwch, digwyddiadau, partneriaethau a gwasanaethau diwylliannol.
Rhaid bod deiliad y rôl yn rhagweithiol ac yn gallu ffynnu mewn amgylchedd prysur iawn. Rhaid bod ganddo dystiolaeth amlwg o ddarparu gwasanaethau ac atebion proffesiynol i ystod eang o randdeiliaid. Rhaid iddo allu gweithio gydag amrywiaeth o dimau, deall eu gofynion, a dangos ei fod yn chwaraewr tîm sy'n barod i helpu ac wedi ymrwymo i ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr