Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01441
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
10 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
1 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol i gyflenwi yn ystod cyfnod mamolaeth yw hon tan 31 Mawrth 2027, gan weithio'n amser llawn.

Dyma gyfle cyffrous i gefnogi ein rhaglen diogelwch gwybodaeth. Rydym yn chwilio am rywun i chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu a chydlynu ein swyddogaethau cydymffurfiaeth, yn enwedig ym maes rheoli asedau. Mae'r adran yn cynnal Banc Data SAIL a'r Platfform e-ymchwil Diogel (SeRP), dwy raglen ymchwil data sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang sydd â'r angen i gynnal safonau eithriadol mewn diogelwch gwybodaeth. Dim ond os yw'r sefydliad yn dangos ymrwymiad cryf tuag at welliant parhaus y gall safonau uchel gael eu cynnal, a bydd y rôl hon yn allweddol er mwyn sicrhau darpariaeth ac effeithiolrwydd y rhaglen welliant honno. Bydd y swydd hefyd yn galluogi’r adran i oruchwylio ystod o swyddogaethau diogelwch gwybodaeth a gwella ein gallu i fonitro cydymffurfiaeth i'n safonau rhyngwladol. 

Bydd y rôl hon yn rhan o’n grŵp diogelwch gwybodaeth a bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda'n timau technegol, ymchwil a busnes. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y rôl hon yn gallu dangos ymagwedd frwdfrydig tuag at nodi meysydd i'w gwella a chefnogi dulliau creadigol i ddatrys problemau. Yn ogystal, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu hyrwyddo egwyddorion diogelwch gwybodaeth, trwy osod esiampl ardderchog drwy eu harferion eu hunain a thrwy gefnogi eraill. 

Os ydych yn unigolyn rhagweithiol, sy'n cael eich ysgogi gan gydymffurfiaeth ac yn dymuno gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn amgylchedd ymchwil deinamig, byddem yn croesawu eich cais.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr