Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01437
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£23,477 i £23,477 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
26 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
16 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Yng ngrŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, rydym yn cynnal ystod o raglenni a mentrau ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang gan gynnwys: Y Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) sy'n galluogi cynnal ymchwil i iechyd poblogaethau, sy'n cadw biliynau o gofnodion o ffynonellau data sy'n cynnwys poblogaeth Cymru. Y Platfform e-Ymchwil Diogel(SeRP) sef y datrysiad y gellir ei addasu'n llawn ar gyfer Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy. Porth Data Dementias Platform UK (DPUK), amgylchedd ystorfa a dadansoddi ar gyfer data cohort dementia. Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru sy'n dod ag arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw a thimau arbenigol ynghyd yn Llywodraeth Cymru i greu tystiolaeth sy'n llywio dyfodol penderfyniadau polisi.

Mae ein gweithlu rhyngddisgyblaethol yn rhan o amryw o brosiectau a rhaglenni ymchwil o bwys, gan gynnal amrywiaeth o sgiliau methodolegol a chymhwysol ar draws disgyblaethau amrywiol i gefnogi a chyflawni ein harloesiadau sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddatblygu meddalwedd, datblygu a rheoli cronfeydd data, epidemioleg, Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, ystadegau, cloddio data, delweddu data, prosiectau sy'n ymwneud ag isadeiledd, datblygu gwefannau, hyfforddiant a chymorth ar gyfer y defnyddiwr, rheoli prosiectau a mwy.

Mae'r rhaglen interniaeth yr haf yn cynnig swydd daladwy 3 mis o hyd i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn meithrin, datblygu a chymhwyso eu sgiliau a phrofiad mewn amgylchedd byd-go iawn, diogel o'r radd flaenaf. Dyma gyfle ardderchog i ddatblygu eich sgiliau gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol, gan wella eich profiad ar eich llwybr i gyflogaeth bellach. Rydym yn chwilio am bobl sy'n gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm, wrth fod yn gyfrifol am eu gwaith ac sydd â diddordeb mewn cyfrannu at gyflwyno allbwn mesuradwy yn eu hinterniaeth.

Mae'r interniaeth hon ar gael i'r holl raglenni gradd ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn man arall.Bydd yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr o ddisgyblaethau sy'n meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd a restrir uchod.Profiad yn unol â rhif adnabod prosiect Intern yn y Llyfryn Interniaid Haf (gweler sgiliau penodol a chefndir addas gerllaw pob rhif adnabod prosiect intern

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Sylwer: Mae gennym swyddi mewn sawl maes prosiect, felly a wnewch chi gyflwyno cais i bob maes prosiect rydych yn dymuno cyrraedd y rhestr fer ar ei gyfer. A wnewch chi nodi'n glir yn eich llythyr eglurhaol pa rif prosiect rydych chi'n cyflwyno cais amdano a sut rydych yn bodloni gofynion yr 'Intern Data Gwyddor Poblogaethau - Rhif Prosiect' yr ydych yn cyflwyno cais amdano.

Sylwer nad oes cyllid ychwanegol ar gael i dalu am gostau llety na theithio y tu hwnt i'r cyflog.

Caiff interniaethau eu cynnig ar sail amser llawn, sef wythnos waith 35 awr, ond ceir ychydig o hyblygrwydd pan fydd angen.

Caiff myfyrwyr ar fisa haen 4 eu cyfyngu i weithio 20 awr yr wythnos, a myfyrwyr gradd Meistr 20 awr yr wythnos.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llyfryn - Prosiect 17 Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr