Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01408
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
25 Maw 2026
Interview Dates
8 Ebr 2026 - 9 Ebr 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae rôl yr Ymgynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau yn hanfodol i'n Tîm Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau Amlddisgyblaethol, sy'n cynnwys staff gwasanaeth proffesiynol sy'n darparu gwasanaeth i fyfyrwyr sydd wedi profi trais a chamdriniaeth, gan gynnwys trais domestig, trais rhywiol, aflonyddu/stelcio, troseddau casineb neu fathau eraill o ymddygiad amhriodol y maent yn teimlo ei fod wedi torri eu hurddas.

Cynnig apwyntiadau i fyfyrwyr y mae trais a chamdriniaeth wedi effeithio arnynt, gan ddarparu cymorth ymarferol o safon, arweiniad a lliniaru risg i ddiogelu pob parti, gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar drawma. Bydd hyn yn cynnwys pob myfyriwr sydd wedi hunangyfeirio neu wedi cael ei gyfeirio at y gwasanaeth fel pryder sylweddol, yn fewnol yn y sefydliad neu o'r tu allan.

Mae ymgynghorwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol i fyfyrwyr ynghylch cofnodi datgeliad cychwynnol, gan gyfeirio at gymorth arbenigol ac archwilio opsiynau adrodd. Yn ogystal, helpu myfyrwyr i ddeall sut gall y Brifysgol eu cynorthwyo gydag unrhyw anghenion ymarferol, ariannol ac academaidd a chynghori ar unrhyw bryderon diogelu posibl y gallai fod angen mynd i'r afael â nhw.

Mae disgwyl i'r Ymgynghorydd Diogelu ac Ymateb i Ddatgeliadau rannu gwybodaeth pan fo angen er mwyn rheoli risg a diogelu myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach. Bydd hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â staff yn y sefydliad a'r tu allan iddo, a fydd yn cynnwys gwneud atgyfeiriadau diogelu a mynychu cyfarfodydd amlasiantaeth ac amlddisgyblaethol, rheoli datgeliadau a sicrhau bod y camau priodol yn cael eu cymryd i ddiogelu ein myfyrwyr ac eraill a allai fod yn agored i niwed neu mewn perygl o niwed difrifol.

 Adolygu atgyfeiriadau a ddaw i law dan y Polisi Cymorth i Astudio - Gweithdrefn Cymorth i Astudio - Prifysgol Abertawe, a phenderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol ar sail asesiad risg. Mynychu a darparu arbenigedd proffesiynol ar Baneli Cymorth i Astudio.  

Rheoli a chydlynu eich llwyth achosion eich hun, gan sicrhau ymateb priodol a chymesur yn unol â pholisïau'r Brifysgol, yn enwedig y polisi Trais a Cham-drin a'r polisi Diogelu.

Cadw cofnodion rheoli achosion cywir a chyfredol gan gynnwys asesiadau risg ac anghenion a chynlluniau cymorth/rhesymeg ar gyfer gwneud penderfyniadau. 

 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr