Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01395
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£34,132 i £38,249 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
1 Maw 2026
Dyddiad Cyfweliad
11 Maw 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan 31 Mawrth 2027, amser llawn.

Dyma swydd a fydd yn defnyddio sgiliau sy’n ymwneud â meddalwedd, sy’n wych ar gyfer graddedigion diweddar neu weithwyr TG proffesiynol profiadol. Gan ddefnyddio eu sgiliau, byddant yn gweithio ar systemau i gefnogi ymchwil ‘Data Mawr'.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar amrywiaeth o ddatblygiadau a fydd yn addas i’w sgiliau i gyfrannu at gynnal gwasanaethau technegol ansawdd uchel sy’n sicrhau y caiff gweithrediadau presennol eu rheoli ac y datblygir cyfleoedd datblygu yn y dyfodol ar gyfer y grŵp Gwybodeg Iechyd.

Bydd deiliad y swydd yn defnyddio ei sgiliau ym maes datblygu TGCh ac yn gweithio’n helaeth gyda systemau technegol presennol a newydd i wella gweithrediad y tîm technegol Gwybodeg Iechyd. 

Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar brosiectau ymchwil blaengar yn y DU ac yn rhyngwladol a bydd ganddo’r cyfle i wneud gwaith cyfrifiadura arloesol ym maes Gwyddor Data.

Bydd deiliad y swydd yn gallu defnyddio eu sgiliau i ddatblygu prosiectau megis cyfrifiadura’r Cwmwl a phensaernïaeth mentrau yn ogystal â gweithio mewn amgylchedd tîm deinamig lle bydd modd iddo ddatblygu ei sgiliau ymhellach, ymagweddau newydd a datblygu methodolegau megis SCRUM.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr