- Rhif y Swydd
- SU01366
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £14.42 yr awr
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Bywyd Myfyriwr
- Lleoliad
- Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 14 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 22 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- James Lewis j.d.lewis@swansea.ac.uk
- Mel Maddocks M.M.Maddocks@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu ystod eang o gyrsiau, apwyntiadau unigol a chynnwys ar-lein i alluogi myfyrwyr i ymgysylltu’n llawn â’u hastudiaethau academaidd a datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol pan fyddant yn graddio.
Caiff ymgynghorwyr Myfyrwyr Mathemateg ac Ystadegau eu recriwtio i gynorthwyo’r tîm Llwyddiant Academaidd wrth ddarparu arweiniad mathemateg ac ystadegau un i un i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ar y campws neu’n rhithwir drwy apwyntiadau a drefnwyd o flaen llaw ar-lein. At hynny, byddwch yn codi ymwybyddiaeth myfyrwyr o’n hadnoddau ar-lein ac yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill fel y bo’n briodol. Mae ein cymorth mathemateg ac ystadegau ar gael i’r holl fyfyrwyr, waeth be fo galluoedd presennol myfyrwyr.
Myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig presennol ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n astudio Mathemateg, Ystadegau neu radd arall sydd â lefel uchel o gynnwys
Y rôl
- Darparu cymorth dysgu mathemateg ac ystadegau i amrywiaeth eang o fyfyrwyr ar ffurf sesiynau cymorth un i un.
- Hysbysu myfyrwyr o adnoddau dysgu ar-lein ar Canvas a chynnig arweiniad ar ddefnyddio’r deunyddiau.
- Defnyddio adnoddau ar-lein mewn sesiynau cymorth.
- Ymdrin â materion myfyrwyr ehangach mewn modd sensitif a chyfeirio myfyrwyr at wasanaethau cymorth priodol ar y campws.
- Cynorthwyo gyda chyhoeddusrwydd ar gyfer sesiynau galw heibio ac adnoddau ar-lein.
- Cynorthwyo wrth weinyddu dogfennau cofrestru ac adborth.
- Sicrhau y rhoddir holl bolisïau’r Brifysgol ar waith o fewn cylch gwaith y swydd. Rhoddir hyfforddiant llawn.
- Mynd i’r holl sesiynau hyfforddiant perthnasol.
- Ymgymryd â dyletswyddau rhesymol eraill yn ôl y gofyn o fewn cwmpas y swydd.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr