Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01341
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Arall - Gweler y disgrifiad swydd
Dyddiad Cau
14 Ion 2026
Dyddiad Cyfweliad
26 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Gyda'n canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf a buddsoddiad gwerth mwy na £500m yn isadeiledd newydd Campws y Bae, mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe'n amlwg fel un o'r canolfannau gorau ar gyfer rhagoriaeth yn y wlad. Mae ein hamgylchedd ymchwil ac addysgu rhagorol yn cefnogi meysydd ymchwil ac addysgu o bwys cenedlaethol a rhyngwladol ar draws amrywiaeth eang o’r Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae'r gyfadran yn gwneud cyfraniad cryf at wireddu strategaeth ryngwladol y Brifysgol ac yn mynd ati i atgyfnerthu ei harlwy addysg drawswladol.

Mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu Cyd-sefydliad Addysg (JEI) mewn partneriaeth â Phrifysgol Dechnegol Nanjing, a oedd wedi croesawu ei garfan gyntaf o fyfyrwyr israddedig ym mis Medi 2025. Mae Prifysgol Dechnegol Nanjing yn brifysgol beirianneg flaenllaw a leolir ar gampws hardd yn ninas o bwys hanesyddol, Nanjing, yn Nhalaith Jiangsu, Tsieina. Mae'r swydd hon yn gyfle i ymuno â phrifysgol a chyfadran flaenllaw yn y DU sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil ar ddechrau partneriaeth gyffrous.

Bydd deiliad y swydd yn dilyn llwybr academaidd ymchwil uwch. Felly, bydd gan ymgeiswyr hanes o ymchwil lwyddiannus ym maes Peirianneg Gemegol, Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg, neu Beirianneg Electronig a Thrydanol sy'n gymesur â phenodiad ar lefel darlithydd. Croesewir ceisiadau'n benodol gan ymgeiswyr o feysydd ymchwil sy'n gysylltiedig ag ynni cynaliadwy a llwybrau i sero net. Dylai ymgeiswyr feddu ar brofiad o addysgu pynciau peirianneg gemegol, gwyddor deunyddiau a pheirianneg, peirianneg drydanol ac electronig gan gynnwys gwaith labordy.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn treulio oddeutu dau floc o chwe wythnos bob blwyddyn yn addysgu'n ddwys ar gampws ein partner ym Mhrifysgol Dechnegol Nanjing yn Tsieina. Bydd yn treulio gweddill yr amser yn cynnal ymchwil ar Gampws y Bae yn Abertawe, gyda'r opsiwn i dreulio amser ar gampws Prifysgol Dechnegol Nanjing yn cynnal prosiectau ymchwil gydweithredol neu'n goruchwylio myfyrwyr PhD. 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr