Mae angen i Michelle Donelan (yn y llun), sydd bellach yn gyfrifol am y genhadaeth i wneud y DU yn archbŵer ym maes gwyddoniaeth, a Michael Gove, sydd wedi cefnogi parthau buddsoddi er mwyn annog twf gwybodaeth-ddwys, ddod o hyd i ffordd o lenwi'r bwlch neu wylio'r cyfleoedd o'n blaenau yn diflannu,

Mae angen i Michelle Donelan (yn y llun), sydd bellach yn gyfrifol am y genhadaeth i wneud y DU yn archbŵer ym maes gwyddoniaeth, a Michael Gove, sydd wedi cefnogi parthau buddsoddi er mwyn annog twf gwybodaeth-ddwys, ddod o hyd i ffordd o lenwi'r bwlch neu wylio'r cyfleoedd o'n blaenau yn diflannu, yn ol Yr Athro Paul Boyle

Rhaid i ffonynellau cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi ar ôl Brexit, yn lle cronfeydd Ewropeaidd, fod cyfwerth â’r symiau blaenorol. Heb yr arian hanfodol hwn, bydd ein prifysgolion yn dioddef ergyd ofnadwy, ysgrifenna Paul Boyle mewn erthygl City AM.

"Mae Rishi Sunak a Keir Starmer wedi datgan eu huchelgeisiau i'r wlad ffynnu ar gefn ymchwil ac arloesedd hanfodol ym mhrifysgolion Prydain.

Ond dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, bydd y prosiectau hyn, 166 ohonynt ledled prifysgolion y DU, mewn perygl wrth i gyllid yr UE ddod i ben. Tipyn o wrthddywediad; un sy'n ymddangos fel pe bai'n deillio o ddiffyg meddwl cydgysylltiedig yn y llywodraeth yn hytrach na bod yn benderfyniad strategol.

Un o ganlyniadau mwyaf arwyddocaol Brexit i'n rhagolygon ymchwil yw diwedd y cyllid hwn, yr ariannwyd llawer ohono drwy raglenni fel Horizon, y cynllun mwyaf o'i math yn y byd. Cefnogwyd nifer sylweddol ohonynt hefyd gan arian o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop (ESIF). Yn y DU, buddsoddwyd £3.7 biliwn drwy'r cronfeydd hyn, yn benodol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mewn prosiectau ymchwil ac arloesi rhwng 2014 a 2020. O'r rheini, bu £576 miliwn ar gyfer prosiectau dan arweiniad prifysgolion yn Lloegr a £376 miliwn yng Nghymru.

Felly dyma gyfran sylweddol o'n harloesi yn y dyfodol.

Safbwynt llywodraeth y DU, a Universities UK, yw ein bod yn dal i obeithio cysylltu â Horizon Ewrop, ond mae llawer o hyn yn dibynnu ar drafodaethau ehangach, anodd ynghylch protocol Gogledd Iwerddon. Er clod i'r llywodraeth, gwnaed cryn ymdrech o fewn yr adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), a'i hadrannau newydd eu gwahanu, wrth ddylunio dewis arall credadwy yn y DU yn lle Horizon, i ddefnyddio'r £6 biliwn sydd wedi'i neilltuo i gefnogi ymchwil ac arloesi yn y dyfodol.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, ni wnaed unrhyw ymdrech i sicrhau y gall prosiectau arloesi sy'n cael eu hariannu gan ESIF barhau. Yn bennaf, mae'n debyg bod hyn oherwydd bod arian a fyddai wedi'i ddarparu i Ewrop – ac sydd bellach yn cael ei ddyrannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU – yn rhan o gyllideb yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau nad oes ganddi gyfrifoldeb am ymchwil ac arloesi nac arbenigedd ynddynt.

Mae cynifer â 166 o brosiectau ymchwil ac arloesi'r DU a ariennid gynt gan y cynllun Ewropeaidd yn prysur agosáu at ymyl y dibyn eleni pan ddaw'r cyllid i ben ac nid oes ffynonellau cyllid eraill ar gael. Mae'r prosiectau hyn yn cyflawni ar feysydd y mae'r llywodraeth wedi'u nodi'n briodol fel prif flaenoriaeth megis "trawsnewid digidol", "yr ymdrech dros Sero Net" a "chefnogi twf mewn busnesau lleol". Mae cannoedd o swyddi yn y fantol, llawer ohonynt yn yr ardaloedd y mae'r agenda ffyniant bro i fod i'w cefnogi fwyaf. Yn wir, bydd 240 o swyddi medrus iawn ym Mhrifysgol Abertawe yn unig mewn perygl ymhen ychydig wythnosau.

Mae'r man dall hwn i'w gael er gwaethaf y ffaith bod Smith a Reid rai blynyddoedd yn ôl wedi cyflwyno achos cymhellol dros drosglwyddo rhan fach o gronfeydd amnewid ESIF i alluogi cefnogi prosiectau ymchwil ac arloesi drwy'r adran a adnabyddid fel BEIS tan yn gynharach y mis hwn. Ni wnaed hyn ac rydym nawr yn gweld y canlyniadau.

Yn hytrach, bydd cynllun arall y DU yn dyfarnu £2.6 biliwn o gyllid erbyn 2025, ond mae cylch gwaith ehangach y cronfeydd yn golygu bod llawer llai ar gael i gefnogi prosiectau ymchwil ac arloesi llwyddiannus. Mae hyn yn golygu na fydd yn dod yn agos at gyfateb â'r £3.7 biliwn a oedd ar gael o’r blaen. Mae mecanweithiau sy'n canolbwyntio'n lleol hefyd yn gwneud cydweithio ar raddfa fawr ar draws rhanbarthau, rhywbeth sy’n angenrheidiol ar gyfer prosiectau ymchwil ac arloesi effeithiol, bron yn amhosibl.

Bydd Cymru yn derbyn £772 miliwn yn llai dan gynllun y DU nag y byddai pe bai wedi parhau i dderbyn arian o dan gronfeydd strwythurol yr UE. Mae'r 40 o brosiectau ymchwil ac arloesi yng Nghymru dan arweiniad prifysgolion a oedd yn cael eu hariannu gynt drwy fuddsoddiad Ewropeaidd bellach mewn perygl.

Mae angen i Michelle Donelan, sydd bellach yn gyfrifol am y genhadaeth i wneud y DU yn archbŵer ym maes gwyddoniaeth, a Michael Gove, sydd wedi cefnogi parthau buddsoddi er mwyn annog twf gwybodaeth-ddwys, ddod o hyd i ffordd o lenwi'r bwlch neu wylio'r cyfleoedd o'n blaenau yn diflannu.

Byddech yn tybio, o ystyried maint y broblem a nifer y swyddi sydd mewn perygl, y byddai'n dod â thiced pris swmpus. Mewn gwirionedd, mae'n gymharol fach. Rydym yn amcangyfrif y byddai clustnodi £170m, neu 6 y cant o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn darparu cyllid ar gyfer parhau â'r prosiectau sydd dan arweiniad prifysgolion tan 2025.

Byddai hyn yn darparu'r lle i sector y prifysgolion, Donelan a Gove, weithio gyda'i gilydd i lunio ymagwedd gynaliadwy, hirdymor at ariannu'r gwaith hwn."

Erthygl City AM

 

Rhannu'r stori