Ffon symudol: gall technoleg weithio ddydd a nos – yn wahanol i ni, yn ol Yr Athro Judith Lamie

Ysgrifennwyd y blog gwadd hwn ar gyfer HEPI gan yr Athro Judith Lamie, Dirprwy Is-ganghellor dros Ymgysylltu Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe.

Nid gwyddonydd ydwyf, a ddaw'n amlwg maes o law, ond mae technoleg yn beth gwych – o ddyfodiad teledu ar ddiwedd y 1920au a sganiau CT yn y 1970au, i ffonau â chamera yn ystod degawd cyntaf y ganrif hon.

Gwnaethom ryfeddu pan ddyfeisiwyd y peiriant casetiau, wedi'i ddilyn gan y Walkman. Roeddwn i'n addysgu yn Okinawa yn Japan ar y pryd. Yn hytrach na cherdded yn dawel i'r gwaith, roeddwn yn gallu gwrando ar grwpiau roc.

Yna daeth y chwyldro digidol. Dechreuodd pethau weithio'n gyflymach ac yn fwy llyfn wrth i'w gallu gynyddu ar yr un pryd. Gallem wrando ar fwy nag un grŵp ar unrhyw adeg benodol, neu roi terfyn ar wrando arnynt, ar ddyfais nad oedd yn rhaid ei chludo mewn cês dillad os oeddech chi'n teithio dramor.

Ond beth yw'r cysylltiad rhwng rhywun yn teithio drwy strydoedd Naha yn y 1980au yn gwrando ar ELO ac arweinyddiaeth?

Yn ôl Mary Parker Follett (1924)*, nid yw arweinyddiaeth yn cael ei diffinio drwy arfer pŵer ond drwy'r gallu i gynyddu'r ymdeimlad o bŵer ymhlith y rhai sy'n cael eu harwain. Dywedodd mai gwaith mwyaf hanfodol yr arweinydd yw creu rhagor o arweinwyr.

Mae hyn yn dal i fod yn wir heddiw. Mae cyfoeth o lenyddiaeth sy'n arddel nodweddion arweinydd da: gwytnwch, trugaredd, creadigrwydd, y gallu i gyfleu gweledigaeth, bod yn sensitif yn ddiwylliannol a chroesawu newid.

Mae gan y cwmnïau mwyaf llwyddiannus nodau clir, maent yn deall anghenion eu cwsmeriaid ac maent yn gallu denu a chadw'r bobl fwyaf talentog yn eu swyddi. Mae eu harweinwyr yn gallu diffinio a chyfleu diben eu sefydliad ac ennill cefnogaeth pobl i helpu'r sefydliad i gyflawni ei nodau. Mae arweinwyr yn rhoi cymorth, yn creu diwylliant sy'n cydnabod gwerth yr unigolyn yn ogystal â phŵer y tîm, maent yn arwain drwy esiampl, yn gwrando ac yn ysbrydoli teyrngarwch.

Wrth gwrs, nid yw'n hawdd bod yn arweinydd. Rydym yn byw mewn byd llawn problemau cymhleth sy'n croesi ffiniau diriaethol ac emosiynol, problemau sy'n symud rhwng lleoliadau, cenedlaethau, credoau a sectorau.

Mae addysg uwch wedi wynebu heriau o'r cychwyn cyntaf. Mae'r gystadleuaeth am staff, myfyrwyr a chyllid wedi cynyddu (ar adeg pan fydd cyllid cyhoeddus am addysg uwch yn y rhan fwyaf o wledydd yn parhau i leihau), mae disgwyliadau ein myfyrwyr yn uwch, mae disgwyliadau cyflogwyr yn newid, mae rheolaethau mewnfudo'n fwy cadarn ac mae patrymau galw a chyflawni'n newid.

Yna daeth 2020. Dyma flwyddyn heb ei thebyg ac roedd yn adeg pan oedd angen cymorth technoleg arnom yn fwy nag erioed, er bod pris i'w dalu, wrth gwrs.

Newidiodd ein sefyllfaoedd, ond parhaodd hanfod ein swyddi. Gwnaeth myfyrwyr astudio a chyflwyno traethodau a thraethodau hir. Gwnaeth staff addysgu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd, dros Zoom neu Teams neu Google Meets, o'u ceginau, eu hystafelloedd gwely, dan y grisiau (yn achos un aelod o'm tîm) ac, yn achos y rhai ffodus, eu swyddfeydd cartref.

Rhoddodd technoleg y gallu i ni i gadw'r wlad ar waith, a chadw llawer ohonom mewn cyflogaeth, ar adeg argyfwng, ond roedd y dechnoleg a'i gweithgareddau cysylltiedig a oedd o bosib yn ymwneud yn benodol â gwaith i ni wedi tresmasu ar ein cartrefi.

Roedd yn ymddangos bod y cyfrifiadur ymlaen drwy'r amser. Gwnaethon ni ddechrau cysylltu tonau tyner galwad Zoom newydd yn fwy â ffilm gan John Carpenter na chynnau canhwyllau persawrus.

Roeddem yn gwybod na allai ein cydweithwyr fod allan gan nad oedd unman i fynd iddo. Roeddem yn gwybod, hyd yn oed pan oeddent wedi trefnu gwyliau, na allent fod ar wyliau. Nid oedd unman i fynd iddo. Felly, gwnaeth y cyfrifiadur ganu a chanu a chanu a pharhaodd yr e-byst i lifo. Meddyliwch amdanoch chi eich hun ar yr adeg honno. Faint o e-byst a anfonoch gan ddechrau gyda: ‘Rwy'n gwybod mai dydd Sul yw hi, ond...’, neu: ‘Rwy'n gwybod dy fod ti ar wyliau blynyddol, ond...’

Yn ôl ar ddechrau degawd cyntaf y ganrif hon, ar ôl i'r Walkman gael ei roi yn y garej ochr yn ochr â'r holl bethau hynny nad ydych byth yn eu taflu ond heb wybod pam, dechreuais i fy rôl fawr gyntaf fel arweinydd mewn prifysgol.

Rwy'n cofio cwrdd â rheolwr llinell fy Mwrdd Gweithredol un diwrnod, yn ystod digwyddiad ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ysgol haf, ac roedd ar fin dechrau gwyliau blynyddol. Dyma adeg cyn ffonau clyfar ac roedd gliniaduron yn dal i fod mor fawr â byrddau coffi, ond roedd e-byst a llinellau tir ar gael i ni.

Gofynnais iddo a oedd yn gallu ymlacio ac anghofio am y gwaith, neu a oedd yn cadw mewn cysylltiad. Oedodd ac yna dywedodd wrthyf am y tîm a oedd ganddo, y grŵp ardderchog o gydweithwyr proffesiynol roedd yn gweithio gyda hwy, yn eu cefnogi, yn dysgu ganddynt ac yn ymddiried ynddynt. Roedd angen hoe arno, fodd bynnag. Roedd angen hoe arnynt hebddo ef! Yn ogystal, roedd angen iddynt weld ei fod yn barod i gamu i ffwrdd o'i rôl i gael hoe, treulio amser gyda'i deulu a magu nerth newydd.

Rwyf wedi cadw'r sgwrs hon mewn cof ers mwy nag 20 mlynedd.

Rhaid i arweinwyr weithredu mewn byd sy’n brysur bob amser. Nid yw'n cael hoe ac nid oes switsh i'w ddiffodd. Mae temtasiwn i arweinwyr, yn enwedig rhai newydd, feddwl mai eu rôl yw bod ar gael ddydd a nos, er mwyn profi eu bod yn gryf ac wrth y llyw. Ond nid yw hyn yn gynhyrchiol nac yn iach i'r arweinydd, na'r rhai hynny y mae'n eu harwain.

Oes, mae angen i arweinwyr allu cyfleu gweledigaeth ac arwain newid, ond mae ganddynt gyfrifoldeb hefyd i'r bobl y maent yn eu harwain ac iddynt hwy eu hunain. Nid yw'n bechod cael hoe; nid yw'n arwydd o wendid. Mae rheswm pam mae angen ailwefru batris. Os nad ydych yn eu hailwefru, maent yn dod i ben ac mae'r golau'n pylu'n raddol cyn mynd yn dywyll; os ydych yn eu hailwefru, daw'r golau yn ôl, a hynny'n ddisgleiriach ac yn gryfach.

Felly, y tro nesaf y byddwch yn meddwl am anfon e-bost hollbwysig am 5.30pm ryw brynhawn dydd Gwener, neu am 9am ar fore dydd Sul, oedwch. Gall rhai pethau aros. Meddyliwch am eich lles corfforol a meddyliol chi eich hun a'r bobl rydych yn eu harwain. Drwy wneud hynny, byddwch yn arweinydd gwych.

*Parker Follet, M. (1924) The Creative Experience. Forgotten Books: Llundain

 

Rhannu'r stori