Bae Bracelet mewn storm

Dros y 12 mis nesaf, bydd mynediad y DU at lawer o raglenni cyllid mawr yr Undeb Ewropeaidd (UE), dan arweiniad y Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF), yn dod i ben. Gwnaeth Llywodraeth y DU ymrwymiad i roi cyllid yn lle'r cyllid coll hwn, ac eleni cadarnhaodd raddfa a dull cyflwyno'r cyllid newydd hwn ar ffurf Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF).

Bydd UKSPF, a lansiwyd yn ddiweddar, yn dyfarnu buddsoddiad lleol gwerth £2.6 biliwn ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025, pan fydd y cynllun yn gwbl weithredol. Gall Cymru, sydd wedi elwa'n sylweddol o gyllid yr UE, ddisgwyl derbyn £585m yn unig drwy UKSPF erbyn 2025. Pe bai'r DU wedi parhau i fod yn aelod o'r UE, gallai Cymru fod wedi disgwyl derbyn oddeutu £1.4 biliwn drwy'r cronfeydd strwythurol yn ystod yr un cyfnod. Yn seiliedig ar gyfnod cyllido blaenorol yr UE (2014-2020), gallem hefyd fod wedi disgwyl y byddai oddeutu 20% o'r cyllid hwnnw wedi cael ei ddyrannu i ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a arweinir yn bennaf gan brifysgolion Cymru. 

Mae'r buddsoddiad llai sydd ar gael, ar y cyd â phenderfyniad Llywodraeth y DU i ddosbarthu cyllid UKSPF drwy awdurdodau lleol, wedi ei gwneud hi'n annhebygol y bydd y prosiectau ymchwil mawr uchelgeisiol a gafodd eu cefnogi'n flaenorol gan yr ESIF yn parhau i gael eu hariannu drwy UKSPF. Mae'r bwlch cyllid hwn yn fygythiad gwirioneddol i swyddi a sgiliau ledled y DU ac mae wedi sicrhau bod llawer o brosiectau yn y fantol, heb sicrwydd y gallant barhau â'u gwaith pan fydd cyllid presennol yr UE yn dod i ben.

Cafodd y prosiectau sydd dan arweiniad prifysgolion a gefnogir gan yr ESIF ar hyn o bryd eu sefydlu er mwyn darparu twf yn yr ardaloedd yn y DU roedd angen y gefnogaeth hon fwyaf arnynt. Maent yn darparu hyfforddiant sgiliau o safon uchel ac yn annog twf o ran cyflogau, cyflogaeth a chynhyrchiant lleol, gan fod hanner y prosiectau hyn yn gweithio gyda busnesau bach a chanolig.

Ar adeg pan fo buddsoddi a thwf ar frig yr agenda economaidd, mae'r prosiectau hyn – y mae pob un ohonynt yn gwneud cyfraniad economaidd sylweddol at ranbarthau ledled y DU – mewn perygl o ddod i ben. Mae'r prosiectau sydd wedi cael eu cefnogi gan yr ESIF yn cynnwys 192 o brosiectau dan arweiniad prifysgolion yn Lloegr, sydd wedi cael cyllid gwerth £412m i ddarparu hyfforddiant sgiliau o safon uchel, gan gefnogi twf cyflogaeth a chynhyrchiant yn lleol. Mae 53 o brosiectau eraill mewn perygl yng Nghymru, gyda chyfanswm buddsoddiad gwerth £300m gan yr ESIF. Bydd cyllid y mwyafrif o'r rhain yn diflannu o fewn blwyddyn ac nid oes ateb uniongyrchol ar gael.

Ym Mhrifysgol Abertawe'n unig, gallai mwy na 50 o brosiectau a ariennir gan yr UE ddod i ben, a byddai 270 o weithwyr hynod fedrus yn colli eu swyddi. Un o'r prosiectau hyn sydd mewn perygl yw'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A), sydd â'r nod o greu arweinwyr diwydiant Cymru yn y dyfodol drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan fyd diwydiant. Mae'r Academi'n canolbwyntio ar brosiectau ymchwil ddiwydiannol ym meysydd caenau gweithredol, deunyddiau a gweithgynhyrchu. 

Ariennir y prosiect gwerth £25.5m yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, ond daw ei gyllid i ben ym mis Rhagfyr 2023. O ganlyniad i golli cyllid Ewropeaidd, bydd llawer llai o wybodaeth yn cael ei chyfnewid rhwng byd diwydiant a'r byd academaidd ynghylch deunyddiau a gweithgynhyrchu. Bydd llai o gyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe weithio ochr yn ochr â byd diwydiant, sicrhau swyddi o ganlyniad i hynny, ac aros yng Nghymru, gan arwain at golli sgiliau a phobl dalentog. Os bydd yn rhaid i brosiectau fel hyn ddod i ben oherwydd diffyg cyllid, bydd y swyddi, y bobl dalentog a'r cymorth busnes a gollir yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ein heconomi leol.

Dim ond un enghraifft leol yw hyn ymysg llawer o brosiectau ledled Cymru, ond bydd effaith gronnol colli'r cyllid hwn yn sylweddol i'r DU yn gyffredinol. Yn wir, yn ddiweddar, ysgrifennodd Vivienne Stern MBE o Universities UK (UUK) a Gordon McKenzie o GuildHE, sydd rhyngddynt yn cynrychioli 196 o brifysgolion a darparwyr addysg uwch ledled y DU, at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Simon Clarke AS, i’w rybuddio bod swyddi, pobl dalentog a gwybodaeth yn cael eu colli yn holl ranbarthau a chenhedloedd y DU, ac y bydd angen colli cannoedd o swyddi os na fydd Llywodraeth y DU yn cymryd camau ar frys i’w cyllido.

Mae rhai prosiectau presennol eisoes wedi eu gorfodi i atal eu gweithgarwch ac efallai y bydd angen i rai prosiectau ddod i ben yn gyfan gwbl, sy'n tanseilio gallu prifysgolion i gefnogi sgiliau, arloesi a busnes lleol. Felly, mae UUK bellach wedi galw ar yr Adran Ffyniant Bro i ddarparu cyllid pontio tymor byr er mwyn galluogi'r prosiectau hyn i barhau, gan gynnig gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu system cyllido lleol gliriach ar gyfer y tymor hir. 

Ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â sefydliadau addysg uwch ledled Cymru a'r DU, rydym am wneud cyfraniad llawn at y strategaeth twf cenedlaethol ac rydym mewn sefyllfa ddelfrydol i wneud hynny drwy hyfforddiant sgiliau o safon uchel, ymchwil, arloesi a mentergarwch, prentisiaethau a mwy. Wrth i ni nesáu ar y cyd at ymyl y dibyn, dyma'r amser i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy a rhoi'r cymorth tymor byr sy'n angenrheidiol er mwyn diogelu'r prosiectau gwerthfawr hyn a fydd fel arall yn cael eu gorfodi i ddod i ben, ar draul colli swyddi, colli pobl dalentog a cholli partneriaethau, a hynny'n ddiangen.

Rhannu'r stori