Llun: myfyrwyr Almaeneg yn Dresden ar gwrs haf. Mae addysg uwch yn ychwanegu gwerth at fywydau pobl mewn llawer o ffyrdd, nad ydynt yn ymwneud ag arian yn unig, yn ôl yr Athro Paul Boyle, megis cyfleoedd i astudio dramor.

Llun: myfyrwyr Almaeneg yn Dresden ar gwrs haf. Mae addysg uwch yn ychwanegu gwerth at fywydau pobl mewn llawer o ffyrdd, nad ydynt yn ymwneud ag arian yn unig, yn ôl yr Athro Paul Boyle, megis cyfleoedd i astudio dramor. Meddai Gabriela, myfyriwr o Abertawe, am ei hymweliad: “Ces i fudd mawr ohono. Ymwelais i â llawer o leoedd yn yr Almaen a chwrddais i â ffrindiau newydd o bedwar ban byd.”  

Wrth i'r drafodaeth am werth addysg uwch barhau, rhaid i ni beidio â gwneud yr un camgymeriad y gallwn ei wneud weithiau gyda'n pobl ifanc, drwy gyfrif cyfanswm eu gwerth yn ôl llythrennau neu rifau'n unig. Nid oes modd mesur popeth sy'n cyfrif.  Erthygl gan Yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe

O ystyried y sefyllfa ariannol bresennol, mae’r syniad o werth da am arian o bwys mawr i lawer o bobl, gan gynnwys yn y sector addysg uwch. Rwy'n croesawu hyn gan ei bod hi'n hen bryd i ni gael sgwrs genedlaethol onest am wir werth addysg uwch a sut telir amdani yma yn y DU.

Fodd bynnag, gan gadw mewn cof y gwahaniaeth hollbwysig a fynegwyd gan Oscar Wilde am wybod pris popeth a gwerth dim byd, mae'n hanfodol bod y sgwrs hon yn seiliedig ar gysyniad llawn a chyflawn o werth. Yn ogystal â mesurau meintiol syml, mae angen i hyn ystyried cyfraniad ehangach ein sector.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi bod yn rhoi'r egwyddor hon ar waith dros yr wythnos ddiwethaf wrth i ni ymateb i filoedd o ddarpar fyfyrwyr sy'n ystyried astudio gyda ni. Rydym yn gwybod bod pob ymgeisydd yn llawer mwy na'r llythrennau neu'r rhifau sy'n ymddangos wrth ochr unrhyw bwnc penodol ar ei drawsgrifiad, ac mae'r ymagwedd hon yn llywio ein proses derbyn myfyrwyr. Rydym yn ymdrechu i weld y person cyfan, gan gymryd yr amser i ddeall y profiad a'r gwerthoedd sy'n sail i'r graddau.

Dylai'r un egwyddor fod yn berthnasol wrth ystyried gwerth parhaus addysg brifysgol i unigolyn.

Yn ddiau, mae gradd yn ychwanegu gwerth mesuradwy; mae 73% o raddedigion yn rhoi'r clod i brifysgolion am eu helpu i gael y swydd o'u dewis ac mae 64% ohonynt yn dweud bod gradd wedi gwella eu sicrwydd gwaith, yn ôl arolwg diweddar gan Universities UK. Bydd 85% o fenywod a 75% o ddynion yn elwa'n ariannol ar ôl mynd i'r brifysgol, hyd yn oed ar ôl ystyried trethi, benthyciadau myfyrwyr ac enillion a ohiriwyd wrth astudio.

Serch hynny, mae addysg uwch hefyd yn cyfoethogi bywydau pobl mewn ffyrdd eraill ac mae'n rhaid ystyried y rhain hefyd wrth asesu ei gwerth. Er enghraifft, gall cyfleoedd i astudio dramor gael effaith drawsnewidiol ar unigolyn, fel rhan o'i brofiad cyffredinol yn y brifysgol.

Ond y maes lle mae'r angen mwyaf brys am olwg ehangach ar werth yw'r sylwebaeth am brifysgolion gan wleidyddion a'r cyfryngau. Mae llawer o'r sylwebaeth hon yn dal i fod yn seiliedig ar ystrydebau disylwedd.

Ar adegau o bwysau ariannol, gall beirniadu prifysgolion ar sail gwerth am arian dynnu sylw oddi ar bethau eraill. Mae'n syml mesur rhywfaint o'r gwerth y gall sefydliadau fel ein prifysgol ni ei greu, megis eu heffaith economaidd uniongyrchol neu nifer y gweithwyr iechyd proffesiynol y maent yn eu hyfforddi.

Ond mae eu gwerth anfesuradwy'r un mor bwysig: y sgiliau trosglwyddadwy y mae ein myfyrwyr yn eu meithrin, neu'r ffordd y mae ein hymchwil yn ategu arloesi mewn meysydd o'r gwyddorau bywyd i led-ddargludyddion. Mae prifysgolion mewn sefyllfa unigryw a hwythau’n sefydliadau angori yn eu rhanbarthau, gan arwain mentrau dinesig a dod â'r sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd: er enghraifft, drwy fentrau megis bargeinion dinesig llywodraeth y DU.

Mae'r drafodaeth negyddol am nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn y DU hefyd yn drueni mawr. Yn wir, maent yn gaffaeliad amhrisiadwy, gan gyfrannu £42bn at y DU bob blwyddyn, yn ôl Universities UK.

Fodd bynnag, mae cymuned amrywiol o fyfyrwyr rhyngwladol yn cynnig llawer mwy na chyfraniad ariannol; rydym yn gweld yn Abertawe y gallant gynrychioli a hyrwyddo ein prifysgolion a'n rhanbarth ledled y byd. Yn dilyn globaleiddio'r byd hwn, mae pobl, busnesau a sefydliadau eraill yn cydweithredu'n rhydd ar draws ffiniau cenedlaethol ac mae prifysgolion yn ychwanegu gwerth anferth drwy greu cyfleoedd i fyfyrwyr o'r DU a thramor ddysgu, byw a chymdeithasu ar draws diwylliannau a chymdeithasau gwahanol.

Yn olaf, mae'r rhethreg siomedig gan uwch-swyddogion yn llywodraeth y DU am raddau yr honnir eu bod yn cynnig ‘gwerth isel’ hefyd yn seiliedig fel arfer ar ddealltwriaeth gyfyng iawn o werth, ac ar ragdybiaeth nad yw rhai pynciau'n meddu ar werth nac yn ei greu. Byddai o fudd i'r rhai hynny sy'n awyddus i fesur gwerth graddau o safbwynt cyfyng gofio bod un o gwmnïau mwyaf y byd, Apple – y mae ei logo yn un o eiconau dylunio ein hoes – wedi'i sefydlu gan ddyn a ysbrydolwyd wrth astudio caligraffeg.  

Wrth i'r drafodaeth am werth addysg uwch barhau, rhaid i ni beidio â gwneud yr un camgymeriad y gallwn ei wneud weithiau gyda'n pobl ifanc, drwy gyfrif cyfanswm eu gwerth yn ôl llythrennau neu rifau'n unig. Nid oes modd mesur popeth sy'n cyfrif.

Rhannu'r stori