Dwy enghraifft o Abertawe yn dangos yr hyn sydd yn y fantol, yn ol Yr Athro Paul Boyle. Mae SPECIFIC yn datblygu technolegau megis celloedd solar argraffadwy (chwith). Mae M2A (de) yn meithrin arweinwyr dyfodol byd diwydiant Cymru drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan fyd diwydiant.

Dwy enghraifft o Abertawe yn dangos yr hyn sydd yn y fantol, yn ol Yr Athro Paul Boyle. Mae SPECIFIC yn datblygu technolegau megis celloedd solar argraffadwy (chwith). Mae M2A (de) yn meithrin arweinwyr dyfodol byd diwydiant Cymru drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan fyd diwydiant.

Rydym ar ymyl dibyn trychineb o ran ymchwil ac arloesi yng Nghymru, a Llywodraeth y DU yn unig sy'n gallu atal hyn bellach.

Ymhen ychydig  wythnosau, byddwn yn dechrau gweld cyllid yr UE yn dod i ben ar gyfer llawer o brosiectau ymchwil mawr yng Nghymru, a fydd yn effeithio ar swyddi, dawn, a gallu lleol o ran arloesi a sgiliau. Ac er bod hon yn broblem ledled y DU, bydd yr effaith ar Abertawe a Chymru yn arbennig o ddifrifol, o ystyried y lefel gymharol uchel o gyllid rydym wedi elwa ohoni yn y gorffennol. 

Eleni, bydd y DU ar y cyfan yn colli mynediad at lawer o raglenni ariannu mawr yr Undeb Ewropeaidd yn sgîl y DU yn gadael yr UE.Mae mwy na 50 o brosiectau sydd naill ai wedi'u harwain gan Brifysgol Abertawe neu mae'r Brifysgol yn rhan ohonynt, ac sydd wedi'u cefnogi gan gyllid yr UE, bellach mewn perygl, ac mae mwy na 240 o swyddi medrus iawn dan fygythiad uniongyrchol yma yn Abertawe.

Mae gennym bryder mawr dros y cydweithwyr niferus y mae eu swyddi yn y fantol ac, yn ehangach, bydd cau'r prosiectau hyn yn niweidio sector ymchwil ac arloesi Cymru yn ddifrifol ac yn anadferadwy.   Mae cyfleoedd ariannu mawr yr UE wedi galluogi prifysgolion a busnesau yng Nghymru i weithio ar y cyd ac yn greadigol i fynd i'r afael â'r heriau y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu, sydd  - tan nawr - wedi arwain at Gymru'n rhagori ar ddisgwyliadau o ran ein heffaith ymchwil.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i wneud yn iawn am golli cyllid gan yr UE, a lledaenu cyllid drwy Gynllun Rhannu Ffyniant y DU (UKSPF), a fydd yn dyfarnu buddsoddiad lleol gwerth £2.6 biliwn ledled y DU erbyn mis Mawrth 2025.   Mae'r dadleuon yn erbyn strwythur y cyllid hwn wedi cael eu hamlygu'n dda gan eraill. Ond mae'n parhau i fod yn broblem fawr bod y mecanwaith ar gyfer lledaenu'r cyllid hwn yn lleol yn ei gwneud hi bron yn amhosibl sicrhau cyllid ar gyfer  cydweithio ar raddfa fawr ar draws rhanbarthau a ledled Cymru.

Mae llawer o'r prosiectau sydd mewn perygl hefyd yn darparu hyfforddiant sgiliau o safon uchel i fusnesau Cymru.  Maent yn annog twf mewn cyflogaeth a chynhyrchiant lleol, sy'n fwy hanfodol byth mewn ardaloedd dan anfantais economaidd yn rhanbarthau Cymru. Yn wrthnysig, maent yn cynnwys gwaith arloesol mewn meysydd arloesi y mae Llywodraeth y DU wedi'u nodi'n briodol yn brif flaenoriaeth, megis trawsnewid digidol a'r ymdrech i sicrhau Sero Net.

Mae dwy enghraifft o Abertawe yn dangos yr hyn sydd yn y fantol.  Mae SPECIFIC yn ganolfan ymchwil ac arloesi ym maes technoleg ynni sy'n creu adeiladau sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu pŵer eu hunain gan ynni solar.  Mae ein hymchwilwyr yn datblygu technolegau megis celloedd solar argraffadwy a deunydd sy'n storio gwres yn yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf. Maent wedi sefydlu saith cwmni deillio ac yn gweithio gyda channoedd o fusnesau a phartneriaid. 

Mae eu gwaith yn mynd i'r afael â'r argyfwng ynni a'r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd, wrth hyrwyddo arloesi yma yng Nghymru; mae'n anodd dychmygu prosiect mwy amserol a hanfodol. Eto i gyd, mae dyfodol tymor hir SPECIFIC mewn perygl o hyd.  Dyma'r bobl sy'n arwain y daith at Sero Net, ac rydym mewn perygl o'u colli – a gwaith arloesi sydd wedi para 15 mlynedd – ar yr union adeg y mae eu hangen arnom fwy nag erioed.

Prosiect arall sydd mewn perygl yw ein Hacademi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A), sy'n meithrin arweinwyr dyfodol byd diwydiant Cymru drwy ymchwil ôl-raddedig a noddir gan fyd diwydiant.  Pe bai'n rhaid cau M2A oherwydd diffyg cyllid, bydd gwaith cyfnewid gwybodaeth hanfodol rhwng byd diwydiant a'r byd academaidd ym maes deunyddiau a gweithgynhyrchu yn cael ei niweidio'n ddifrifol, a fydd yn cael effaith andwyol ar y sector hwn yn ein heconomi.    Bydd llai o gyfleoedd i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe weithio ochr yn ochr â byd diwydiant, sicrhau swyddi ac aros yng Nghymru, gan arwain at ddraen dawn niweidiol.

Wrth i ymyl y dibyn  agosáu o ran y gweithgarwch hwn, mae arnom angen rhwyd ddiogelwch ar frys ar ffurf cyllid newydd  ar gyfer prosiectau sydd mewn perygl fel y rhain, a'r prosiectau niferus eraill sydd dan fygythiad yng Nghymru. Dyma'r amser i Lywodraeth y DU liniaru'r difrod sydd ar fin digwydd i'n sectorau ymchwil, arloesi a diwydiannol a rhoi'r cymorth tymor byr y mae ei angen arnom i ddiogelu'r prosiectau gwerthfawr hyn yng Nghymru.

Rhannu'r stori