Dr Timothy Davies

Dr Timothy Davies

Uwch-ddarlithydd, Electronic and Electrical Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295584

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Swyddfa Academaidd - B207
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae

Trosolwg

Mae diddordebau Dr Timothy Davies yn amrywio o gylchedau amledd radio mewn cyflogaeth flaenorol ac yn ei yrfa gynnar, i gymwysiadau microbrosesyddion a phrosesu delweddau.

Mae gwaith ymarferol wedi bod wrth wraidd ei addysgu erioed, ac ar adeg ysgrifennu’r pwt hwn mae'n ymwneud â phum modiwl labordy yn y Coleg Peirianneg. Mae hyn yn cynnwys yr ymarfer Dylunio Grŵp llwyddiannus iawn ar gyfer myfyrwyr Trydanol yr ail flwyddyn, sy'n cynnwys timau bach o fyfyrwyr yn dylunio ac yn adeiladu robotiaid bach dwy olwyn sydd wedi'u rhaglennu i gyflawni nifer o dasgau penodol.

Mae Dr Davies yn Amatur Radio trwyddedig ac ar hyn o bryd ef sy'n dal arwydd galw clwb y brifysgol, GW3UWS.

Meysydd Arbenigedd

  • Cylchedau Amledd Radio
  • Dylunio cylched analog
  • Cymwysiadau microreolwyr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae dyletswyddau addysgu Dr Davies fel a ganlyn:

EG-151 Microreolwyr
EG-152 Dylunio Cylchedau Analog
EG-240 Cylchedau Electronig (cydlynydd y modiwl)
EG-252 Ymarfer Dylunio Grwp (cydlynydd y modiwl)
EGA222 Cylchedau Ymarferol A (cydlynydd y modiwl)
EGA223 Cylchedau Ymarferol B (cydlynydd y modiwl)
EG-340 Electroneg Dylunio (cydlynydd y modiwl)

Yn ogystal, mae'n goruchwylio prosiectau trydedd flwyddyn fel rhan o'r modiwl EG-353.

Ar hyn o bryd, ef yw'r tiwtor blwyddyn ar gyfer myfyrwyr Peirianneg Electronig a Thrydanol ail flwyddyn.

Prif Wobrau