An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Professor Tomás Irish

Yr Athro Tomás Irish

Athro
History

Cyfeiriad ebost

111
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Tomás Irish yn arbenigwr yn hanes Ewrop yr ugeinfed ganrif ac mae ganddo arbenigeddau yn hanes diwylliannol y Rhyfel Byd Cyntaf ac Ewrop rhwng y rhyfeloedd. Mae'n awdur tri llyfr a nifer o erthyglau a phenodau llyfrau, mae ei ymchwil wedi amlygu'r ffyrdd y mae prifysgolion, deallusion, a gwybodaeth ei hun wedi dylanwadu ar faterion rhyfel a heddwch yn y gorffennol yn ogystal â'r ffyrdd y mae cymdeithasau yn y gorffennol wedi gwerthfawrogi gwybodaeth yn ystod adegau o argyfwng. Cyhoeddwyd ei fonograff diweddaraf, Feeding the Mind: Humanitarianism and the Reconstruction of European Intellectual Life, 1919-1933, gan Cambridge University Press yn 2024.

Ar hyn o bryd mae Tomás yn gweithio ar ddau brosiect newydd. Ei brosiect cyntaf yw llyfr newydd (y teitl dros dro yw 'The Politics of Utopia') sy'n canolbwyntio ar rwydwaith o ymgyrchwyr heddwch rhyngwladol yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, y gwnaeth pob un ohonynt gyfraniad mawr at sefydlu UNESCO ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae'r ail brosiect newydd yn archwilio iawndaliadau wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac yn canolbwyntio ar adfer gwrthrychau diwylliannol a gafodd eu dwyn neu eu dinistrio

Daw Tomás o Iwerddon yn wreiddiol, ac astudiodd am ei raddau BA a PhD yng Ngholeg y Drindod Dulyn, Iwerddon, a bu ganddo gymrodoriaeth ymchwil ôl-ddoethurol yno rhwng 2012 a 2015. Dechreuodd swydd Darlithydd mewn Hanes Modern ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2015, cafodd ei ddyrchafu'n Uwch-ddarlithydd yn 2018, yn Athro Cysylltiol yn 2022 ac yn Athro yn 2025. Mae'n Gymrawd o’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Ewrop 1900-1945
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf
  • Hanes dyngarwch
  • Cynghrair y Cenhedloedd
  • Hanes Deallusol
  • Cynhadledd Heddwch Paris, 1919
  • Treftadaeth ddiwylliannol
  • Y Chwyldro Gwyddelig, 1912-22

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae'r Athro Irish yn addysgu ar ystod o fodiwlau ynglŷn â hanes yr ugeinfed ganrif ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys modiwl pwnc arbennig yn y flwyddyn olaf am Gynghrair y Cenhedloedd o'r enw 'The Lights that Failed' a modiwl ail flwyddyn o'r enw 'The Global First World War.'

Ymchwil Prif Wobrau