Trosolwg
Mae Keith yn Athro mewn Seiciatreg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arweinydd iechyd gofal ac academydd clinigol profiadol
Prif weithgaredd arloesi Keith yw'r rhyngwyneb rhwng lles a chwaraeon fel arweinydd ar gyfer Y Sefydliad Cenedlaethol dros Chwaraeon ac Iechyd, a ariennir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ei brif weithgaredd ymchwil yw ymchwil a data arferol ar hunanladdiad a hunan-niwed. Mae’n gyd-ymgeisydd ar gyfer y Ganolfan Genedlaethol newydd ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Yn glinigol mae Keith yn seiciatrydd ymgynghorol anrhydeddus mewn tîm iechyd meddwl cymunedol.
Mae gweithgareddau allanol yn cynnwys cadeirio Technoleg Iechyd Cymru, a bod yn aelod cofrestredig o gyngor y Cyngor Meddygol Cyffredinol dros Gymru. Mae Keith hefyd yn ymddiriedolwr Cwmni Theatr Volcano Abertawe, ac Heartbeat Trust UK.
Yn flaenorol, Keith oedd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe ar gyfer Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd (2020-2025), aelod annibynnol o fwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe (2020-2025), a Deon yr ysgol feddygol ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2012-2020. Rhwng 2016-2020, ef oedd Is-Lywydd etholedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a chadeirydd y RCPsych yng Nghymru. Rhwng 2010-2012, ef oedd pennaeth NISCHR - corff Llywodraeth Cymru a oedd yn gyfrifol am bolisi, strategaeth a chyllid ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
UCHAFBWYNTIAU GYRFA
2020-25 Dirprwy Is-Ganghellor Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe
2020-2025: Aelod annibynnol (anweithredol) o fwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe
2016-2020: Is-lywydd Etholedig Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a chadeirydd y RCPsych yng Nghymru
2012-2020: Deon, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
2010-2012: Pennaeth NISCHR - corff Llywodraeth Cymru a oedd yn gyfrifol am bolisi, strategaeth a chyllid ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru