Yr Athro Laura Roberts

Athro, Biosciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
114
Llawr Cyntaf
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Deon Cysylltiol ar gyfer Addysg ydw i yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg. Cyn hynny, roeddwn yn Arweinydd Addysg ar gyfer Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg (2021 – 22) ac yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Coleg Gwyddoniaeth (2019-2021). Rwy'n canolbwyntio ar wella arferion dysgu, addysgu ac asesu yn y Gyfadran a darparu goruchwyliaeth o sicrwydd ansawdd a darparu rhaglenni gradd israddedig ac ôl-raddedig mewn modd strategol. Mae hyn yn cynnwys:

• Arwain y Gyfadran wrth ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr a chyfleoedd dysgu o safon i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir
• Arwain a chefnogi datblygiad portffolios ar draws y gyfadran, newidiadau i wella'r rhaglenni presennol a dilysu rhaglenni newydd
• Cynnal gweithgareddau datblygu staff ar gyfer arweinyddiaeth a rhagoriaeth mewn Dysgu, Addysgu ac Asesu
• Gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr i wella'r gymuned ddysgu, profiadau a chyfleoedd
• Ehangu allgymorth addysg y Gyfadran i fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, cyfoethogi'r biblinell dalent, Canlyniadau Graddedigion ac uwchsgilio'r gweithlu STEM

Enillais fy PhD mewn Bioleg Cadwraeth yn 2010. Wedi hyn fe ymgymerais â chwrs TAR a dechrau darlithio yn y Biowyddorau yn Abertawe yn 2011. O ran fy nisgyblaeth, rwy'n arbenigo mewn Ecoleg, yn enwedig Bioleg Dŵr Croyw. Rwy'n addysgu amrywiaeth o fodiwlau Cadwraeth ac Ecoleg, gan arwain cyrsiau maes lleol a rhyngwladol. Mae fy modiwlau yn cyd-fynd â safonau diwydiant sy'n arwain y sector (BIOM22, BIO331). Mae gen i ddiddordeb mawr mewn addysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac rwy'n ymgymryd ag ymchwil addysgeg mewn Asesu ac Adborth a chyflogadwyedd graddedigion.