Dr Kate Ellis-Davies

Dr Kate Ellis-Davies

Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg, Psychology

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
711
Seithfed Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy ymchwil yn croestorri seicoleg iechyd a datblygiad. Mae gennyf ddiddordeb yn y ffactorau biolegol, gwybyddol, ymddygiadol, perthynol, diwylliannol ac amgylcheddol sy'n effeithio ar iechyd, lles a  datblygiad rhieni a phlant ar draws y rhychwant oes.

Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol ac yn rhyngwladol ei natur, ac mae rhan o’r gwaith mwyaf buddiol rwy'n ei wneud yn cynnwys cydweithio ar draws disgyblaethau academaidd, elusennau, gwasanaethau iechyd a grwpiau cleifion.

Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn hanes iechyd meddwl a lles rhieni, a'r cysylltiad â gweithrediad ehangach y plentyn a'r teulu. Yn y maes hwn, rwy'n archwilio rôl rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, cyswllt biolegol â phlentyn, iechyd corfforol a chymorth canfyddedig y rhiant ynghyd a’r llwybr at ddod yn rhiant.

Mae'n bwysig yn fy ymchwil bod grwpiau lleiafrifol, a'r rhai nad ydynt efallai fel arfer yn cael eu cynnwys mewn ymchwil iechyd meddwl a lles rhieni, yn cael eu cynnwys. Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn archwilio'r ffactorau unigol a chymdeithasol sy'n dylanwadu ar risg a gwytnwch rhieni.

Mae'r ymchwil rwy’n ei gwneud yn cynnwys y cwestiwn tragwyddol o beth yw rôl diwylliant yn yr agweddau biolegol, gwybyddol a chymdeithasol ar fagu plant a datblygiad plant. Rydym yn archwilio rôl diwylliant trwy astudiaethau ymchwil rhyngwladol mewn cymdeithasau W.E.I.R.D (gorllewinol, wedi'u haddysgu'n ffurfiol, diwydiannol, cyfoethog, democrataidd), yn ogystal â chymdeithasau a diwylliannau heliwr-gasglwr a thwrio.

Mae fy addysgu yn seiliedig ar fy ymchwil, gyda’r modiwlau rwy'n eu haddysgu yn archwilio iechyd a datblygiad rhieni a phlant ar draws y rhychwant oes (PSY212; PSY302; PSY326); a methodoleg a dulliau adolygu systematig ym meysydd iechyd a gwyddorau bywyd (PSY327). Mae'r addysgu hwn a arweinir gan ymchwil hefyd yn cael ei adlewyrchu yn fy ngoruchwyliaeth prosiectau ymchwil israddedig ac ôl-raddedig, yn ogystal â'm goruchwyliaeth PhD.

Meysydd Arbenigedd

  • Iechyd meddwl rhieni
  • Technolegau atgenhedlu â chymorth a magu plant (e.e. IVF, ffrwythloni artiffisial, benthyg croth)
  • Rôl y tad
  • Modelau traws-ddiwylliannol o fagu plant a datblygiad plant
  • Magu plant
  • Datblygiad plant

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Sgiliau ymchwil trosglwyddadwy sy’n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio tystiolaeth yn feirniadol, a chyfleu tystiolaeth i gynulleidfaoedd gwahanol er mwyn hwyluso penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth (PSY326, PSY327)

Magu plant, datblygu a lles teuluol ar draws y rhychwant oes (PSY326, PSY212, PSY302)

Ffactorau sy’n cefnogi lles, ymrwymiad a gwytnwch myfyrwyr.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau