Trosolwg
Rwyf wedi bod yn addysgu ym Mhrifysgol Abertawe ers 2001, ac ar hyn o bryd rwy'n addysgu modiwlau Ffrangeg i Ddechreuwyr, modiwlau Cyfieithu ar y Pryd arbenigol y flwyddyn olaf a gradd Meistr, ac rwy'n cyfrannu darlithoedd at fodiwlau iaith lenyddol, ddiwylliannol a phroffesiynol.
Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys ffurfiau celf amrywiol o droad yr ugeinfed ganrif, a barddoniaeth Ffrangeg fodern yn arbennig.
Rwy'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.