Header
Saber

Dr Saber Azizishirvanshahi

Senior Lecturer in Aerospace Engineering
Aerospace Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604860

Cyfeiriad ebost

312
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Saber Azizi yn Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gyn Gymrawd Marie Skłodowska-Curie Actions. Ers mis Medi 2023, mae ei ymchwil MSCA wedi canolbwyntio ar ddylunio, modelu, cynhyrchu a phrofi synwyryddion biomas MEMS ar gyfer canfod biofarcwyr canser yr afu. Fel rhan o'r gymrodoriaeth hon, mae ei grŵp wedi cynhyrchu a phrofi synhwyrydd biomas MEMS yn ddiweddar, ar y cyd â Phrifysgol Technoleg Delft yn yr Iseldiroedd a Phrifysgol De Cymru Newydd yn Awstralia.

Mae gan Dr Azizi brofiad helaeth o ddylunio, cynhyrchu a nodweddu synwyryddion ac actwaduron MEMS. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys technolegau MEMS/NEMS, dynameg strwythurol, dadansoddi dirgryniad, ymddygiad aflinol systemau micro-raddfa, synhwyro biofeddygol a dulliau hynod sensitif o ganfod biomas. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn datblygu dyfeisiau MEMS uwch ar gyfer monitro iechyd, diagnosteg fiofeddygol a chymwysiadau synhwyro at ddibenion awyrofod.

Mae ei waith yn cyfuno modelu dadansoddol, efelychu rhifiadol, profi arbrofol a chynhyrchu mewn ystafell lân i wella perfformiad, sensitifrwydd a dibynadwyedd y genhedlaeth nesaf o synwyryddion MEMS.

Meysydd Arbenigedd

  • Dynameg Aflinol a Dadansoddiad Deufforchiad
  • Dylunio a chynhyrchu MEMS
  • Modelu ac Efelychu MEMS

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
Teaching

Mae Dr Saber Azizi yn addysgu Dynameg 2 (EG-360) a  Cherbydau Hedfan â Llafnau Rotor (EG-3081) i fyfyrwyr Peirianneg Awyrofod. Mae ei waith addysgu'n canolbwyntio ar ddynameg strwythurol uwch, dadansoddi dirgryniad, dynameg rotor a chymhwyso egwyddorion peirianneg i systemau awyrofod.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau