Dr Feras Korkees

Dr Feras Korkees

Uwch-ddarlithydd, Materials Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A214
Ail lawr
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

PhD PGDip BSc IEng AIMMM FHEA

Rwy'n Ddarlithydd mewn Polymerau a Chyfansoddiau o fewn y Coleg Peirianneg. Yn ogystal ag addysgu ar draws yr ystod o raglenni Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, rwyf hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a phrosiectau ymchwil.

Mae fy niddordebau ymchwil yn bennaf ym meysydd ymddygiad oes hirdymor polymerau a chyfansoddiau polymer, Nanogyfansoddiau, ac argraffu cyfansoddiau 3D. Mae cysylltiad diwydiannol rhwng y rhan fwyaf o'r ymchwil hwn a chwmnïau ledled y DU.

Mae'r meysydd ymchwil presennol yn cynnwys datblygu:

- Cyfansoddiau ffibr carbon/epocsi wedi'u hatgyfnerthu gan graffin
- Nanogyfansoddiau graffîn/polymer newydd
- Cyfansoddiau printiedig 3D newydd

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfansoddiau polymer wedi'u hatgyfnerthu gan ffibr
  • Nanogyfansoddiau
  • Argraffu 3D cyfansoddiau
  • Thermosetiau a Thermoblastigau
  • Ailgylchu thermoblastigau
  • Amsugno lleithder a Hindreulio cyflymach
  • Profi mecanyddol a nodweddiadu deunyddiau