Trosolwg
Ymunodd Barry â'r Brifysgol yn 2007 ac mae'n Bennaeth y Gwyddorau Gofal Iechyd, o fewn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd. Mae wedi bod yn Awdiolegydd cymwysedig ers dros 20 mlynedd ac ef yw Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs BSc Gwyddor Gofal Iechyd (Awdioleg). Mae'r adran Gwyddorau Gofal Iechyd yn cynnig 9 rhaglen radd amser llawn ar draws gwahanol ddisgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd. Mae gan Barry gontract anrhydeddus gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg fel Academydd Clinigol. Mae’n gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac yn arwain y gwasanaeth Awdioleg yn yr Academi Iechyd a Llesiant, sy’n darparu cyfleoedd clinigol ac ymchwil.