Trosolwg
Mae Andrea yn Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Chymdeithas Seicolegol Prydain. Bu Andrea gynt yn Gyfarwyddwr Sefydliad AWEN ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia. Mae Andrea bellach yn cydlynu rhwydwaith diddordeb ac ymchwil dementia, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithrediad synhwyraidd a chanfyddiadol a gallu i ganolbwyntio wrth heneiddio ac o ran dementia. Mae Andrea wedi cyhoeddi'n helaeth yn y meysydd hyn, gan gynnwys llyfrau sydd wedi'u cynhyrchu’n rhyngwladol ar y cyd â phobl sy'n byw gyda dementia, pobl sy’n rhoi gofal, academyddion (ar bob lefel gyrfa), meddygon, awdiolegwyr, optometryddion, therapyddion galwedigaethol, nyrsys, economegwyr iechyd, hwyluswyr grwpiau ymchwil dementia a myfyrwyr PhD. At hynny, mae gan Andrea ddiddordebau ymchwil mewn perthynas â thrin canser drwy radiotherapi a systemau cymorth a logisteg cysylltiedig.
Bu'n fraint i Andrea fwynhau goruchwylio mwy nag 20 o fyfyrwyr PhD ar draws ystod eang o ddiddordebau academaidd.