Dyddiad cau: 2 Rhagfyr 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid:  BBSRC SWBio

Y meysydd pwnc:  Ymddygiad anifeiliaid

Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2027

**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.

Goruchwylwyr: 

  • Dr Shane Windsor (Prifysgol Bryste)
  • Yr Athro Emily Shepard (Prifysgol Abertawe )
  • Yr Athro Arthur Richards (Prifysgol Bryste)
  • Yr Athro Rory Wilson (Prifysgol Abertawe)

Dull astudio: Amser llawn neu Rhan Amser

Man Astudio:

  • Prifysgol Abertawe (Campws Y Singleton)
  • Arall: Prifysgol Bryste

Disgrifiad o'r Prosiect: 

Mewn llawer o anifeiliaid, mae cytrefi bridio yn debyg i "ddinasoedd anifeiliaid", lle mae unigolion yn ymgynnull flwyddyn ar ôl blwyddyn i atgenhedlu, cyfnewid gwybodaeth ac elwa o amddiffyniad ar y cyd. I anifeiliaid sy'n hedfan, mae cytrefi hefyd yn feysydd awyr. Mae'n rhaid i adar godi i'r awyr a glanio dro ar ôl tro mewn amodau amgylcheddol heriol ac mewn gofod awyr gorlawn. Mewn hedfanaeth, mae'r risgiau o weithredu'n agos at y ddaear wedi'u sefydlu'n dda: Gall llifoedd aer (h.y. croeswyntoedd, hyrddwyntoedd a chroeswasgiad y gwynt) amharu ar y gallu i reoli ehediad, a gall hyn arwain at ddamweiniau a marwolaethau. Mae'r risgiau hyn hefyd yn effeithio ar adar. Mae astudiaethau diweddar wedi datgelu marwolaethau rheolaidd o ganlyniad i wrthdrawiadau mewn cytrefi o huganod ac albatrosiaid. Mae nifer y gwrthdrawiadau yn dibynnu ar y gwynt, ac mae’r marwolaethau yn ddigon aml i effeithio ar gyfraddau twf poblogaethau. Mae hyn yn codi cwestiynau sylfaenol ynghylch sut mae adar yn canfod ac yn rheoli risg wrth hedfan yn agos at y ddaear, ac a yw diogelwch glanio wedi dylanwadu ar strwythur a lleoliad cytrefi.

Bydd y prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn defnyddio data bio-logio amlder uchel i ymchwilio i sut mae adar y môr yn lliniaru risgiau glanio mewn amodau gwynt amrywiol. Bydd gan y myfyriwr fynediad at ddata tagio eithriadol sydd eisoes yn bodoli, a bydd yn gallu cynnal gwaith tagio wedi’i dargedu pellach gyda phartneriaid prosiect cenedlaethol a/neu ryngwladol, er mwyn datblygu dau amcan craidd:

(1) Nodi’r amodau sy'n achosi glaniadau ergyd uchel, fel dangosydd mesuradwy o risg hedfan. Amcangyfrifir yr ergyd uchaf wrth lanio yn seiliedig ar ddata cyflymiad a gasglwyd ar yr aderyn, a chaiff hyn ei fodelu mewn perthynas â'r gwynt yn achos  huganod y gogledd (gan ddefnyddio data cyflymiad o Bass Rock, a gofnodwyd ar ≤ 200 Hz). Mae potensial hefyd i estyn y dull hwn i dacsonau eraill o adar sy'n nythu ar glogwyni (o leiaf 6 rhywogaeth o garfilod ac albatrosiaid).

(2) Ymchwilio i sut mae adar yn addasu eu penderfyniadau cyn glanio – gan gynnwys eu llwybrau dynesu a nifer yr ymgeisiau glanio – mewn perthynas â'r gwynt (ffigur 1). Bydd dadansoddiadau yn tynnu ar ecoleg ymddygiadol ac aerodynameg, gan brofi a yw adar a pheilotiaid dynol yn defnyddio rheolau glanio tebyg, a bydd hefyd yn archwilio a yw adar yn defnyddio symudiadau cyn glanio i drosglwyddo gwybodaeth (e.e. ynglŷn â'u llwyddiant wrth chwilio am fwyd). Mae data GPS amledd uchel ar gael ar gyfer pedair rhywogaeth sy'n perthyn yn agos i'w gilydd (huganod y gogledd a huganod y Penrhyn,  bwbïod troedlas a bwbïod Periw) – rhywogaethau sydd, gyda'i gilydd, yn cwmpasu amrediad o ran màs y corff sy'n amrywio o un i ddwywaith y maint (~1.4 kg – 3.0 kg).

Gyda'i gilydd, bydd y prosiect hwn yn cynnig dealltwriaeth newydd o'r amodau gwynt sy'n peri'r her fwyaf i adar, sut mae'r rhain yn amrywio yn ôl màs y corff ac arddull hedfan, a pha mor gyffredin yw'r ymddygiadau sydd wedi esblygu i gynnal rheolaeth wrth hedfan.

Cymhwyster

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:

Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Sylwer bod y rhaglen yn gofyn i rai ymgeiswyr feddu ar gymeradwyaeth ATAS, mae mwy o fanylion am gymwysterau'r cynllun ATAS ar wefan Llywodraeth y DU.

NID yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses ymgeisio am ysgoloriaeth. Rhoddir manylion i ddeiliaid dyfarniad (fel y bo'n briodol) ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar yr un pryd â chael cynnig ysgoloriaeth am gwrs.

 

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI

(£20,780 ar gyfer 2025/26) - Gorffennaf 2026

(£21,805 for 2026/27) - Hydref 2026 ymlaen

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £4,000 y flwyddyn ar gael hefyd.

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon:

Gwnewch gais i Brifysgol Bryste: https://www.swbio.ac.uk/agriculture-environmental-projects/

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:

ENW:  Emily Shepard

E-BOST: e.l.c.shepard@swansea.ac.uk

NAME: Shane Windsor

EMAIL: Shane.Windsor@bristol.ac.uk