Mae dewis ble i dreulio tair blynedd nesaf eich bywyd yn benderfyniad enfawr. Os ydych yn meddwl am addysg uwch, beth am fod yn rhan o stori llwyddiant Abertawe?
Rydym ni'n brifysgol gyfeillgar sy'n cynnig rhagoriaeth o ran dysgu, ynghyd ag addysgu sy'n ysbrydoli, bywyd awyr agored gwych – a chroeso cynnes iawn.
Mae Abertawe'n cynnig addysgu arobryn ac ymchwil o'r radd flaenaf ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o gyrsiau – o raddau sylfaen hyd at gyfleoedd ôl-raddedig. Hefyd, mae digon o arweiniad arbenigol i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael y cyngor gyrfaol cywir i’ch paratoi am fywyd ar ôl y Brifysgol, ni waeth pa gwrs rydych chi’n ei ddewis.
Ni fyddwch chi ar eich pen eich hun yn Abertawe – bydd ein tîm ymroddedig o staff ar gael i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd yn ystod eich amser gyda ni. Byddan nhw yno i roi arweiniad arbenigol i chi pan fydd angen help llaw arnoch chi i fanteisio i’r eithaf ar fod yn fyfyriwr, ar ac oddi ar y campws.
Pan fyddwch chi’n ymuno â'n cymuned unigryw, byddwch chi’n cael mwynhau bywyd ar ein dau gampws glan môr – sydd â'r cyfleusterau delfrydol i gael profiad llwyddiannus fel myfyriwr. Pan na fyddwch chi’n astudio, byddwch chi o fewn munudau i ganol y ddinas, yn ogystal â bod yn ddigon agos i archwilio atyniadau penrhyn hardd Gŵyr yn hawdd.
Mae Undeb y Myfyrwyr yma'n cefnogi mwy na 50 o glybiau a 130 o gymdeithasau ac yn cynnig cyfleoedd gwych i chi wneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar rywbeth newydd –mae rhywbeth at ddant pawb!
Rydym ni wedi cael mwy na chanrif o brofiad o ddarparu addysg uwch o'r safon uchaf, ond rydym ni'n ceisio gwella drwy'r amser. Sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad bythgofiadwy yw ein blaenoriaeth o hyd.
Yn Abertawe, rydym ni'n adnabyddus am fod yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn gefnogol – beth am ddod i gael blas ar ein harlwy ni?
• 26ain yn y DU & 15fed yn y DU am Foddhad Cwrs (Guardian University Guide 2023)
• 6ed Ddinas Fwyaf Diogel i fyfyrwyr yn y DU a’r Ddinas Fwyaf Diogel i fyfyrwyr yng Nghymru (Complete University Guide 2023)
• 6ed yn y DU am Fywyd Myfyriwr & 6ed am Ragolygon Gyrfa (Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni? 2023)
• 93% o’n graddedigion yn gweithio, yn astudio a/neu’n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA 2022)