Llongyfarchiadau ar dderbyn eich cynnig i ymuno â Phrifysgol Abertawe!
Ymunwch â sefydliad ymchwil o'r radd flaenaf sydd ag uchelgeisiau mawr a byddwch yn cael profiad dysgu ac addysgu rhagorol gyda phwyslais ar gyflogadwyedd. Byddwch yn syrthio mewn cariad â'r ddinas ac yn dod yn rhan o'n rhwydwaith byd-eang gydol oes o dros 100,000 o gyn-fyfyrwyr.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gallwch ddilyn hynt eich cais trwy system UCAS, darllen am y mathau o gynnig y gallech eu derbyn, gwirio ble rydych chi ar amserlen y cais a dechrau paratoi ar gyfer bywyd yn y brifysgol.