PROFIAD PAULINA O ASTUDIO TEFL YN ABERTAWE:
"Gwireddwyd un o fy mreuddwydion mwyaf pan dderbyniais y llythyr yn dweud fy mod wedi cael lle ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf wedi eisiau astudio yn y Deyrnas Gyfunol erioed, a phan ddes i ar draws gwefan Prifysgol Abertawe, roeddwn yn gwybod na allwn astudio mewn lle gwell. Dewisais TEFL ar gyfer fy ngradd Meistr am ei bod yn barhad o'm cwrs israddedig, yn yr union faes astudio y mae gen i ddiddordeb ynddo. Cwrddais â darlithwyr ac athrawon a oedd yn ysbrydoli ac yn angerddol am eu pynciau, ac roeddent yn gwneud eu gorau i drosglwyddo'u gwybodaeth i'w myfyrwyr. Ces i lawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau grŵp, mewn trafodaethau i rannu ein barn ac i ddysgu gan ein gilydd. Datblygodd hyn fy ngallu i feddwl yn feirniadol yn fawr, ac ehangodd fy safbwynt ar wahanol faterion. Rhoddodd hyn hyder fy mod wedi gwneud dewis doeth. Ni fyddaf yn anghofio'r bobl y treuliais y flwyddyn gyfan gyda nhw yn astudio fyth, ac ar ben hynny yn mwynhau Abertawe a rhannu profiadau bythgofiadwy. Yn bendant, Prifysgol Abertawe oedd y dewis gorau y gwnes i erioed o ran fy addysg a'm hyfforddiant proffesiynol."
- Paulina Lewkiewicz