Singleton Campus and Economics Network logo

Mae Steve Cook, Athro Econometreg Prifysgol Abertawe a Phennaeth yr Adran Economeg, wedi cael ei benodi i Fwrdd Gweithredol yr Economics Network. 

Yr Economics Network yw'r sefydliad academaidd mwyaf ei faint a mwyaf hirsefydlog sy'n ymroddedig i wella dysgu ac addysgu economeg ym mhrifysgolion y DU.  Ei Fwrdd Gweithredol yw'r corff penderfynu sy'n gyfrifol am arwain ei weithgareddau yn y sector addysg uwch.

Ers iddo ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2000, bu nifer o swyddi arweinyddiaeth gan yr Athro Cook, gan gynnwys Pennaeth Ysgol a Phennaeth Adran, ac mae wedi creu enw da iddo ei hun am ragoriaeth mewn ymchwil ac addysgu.

Bydd yr Athro Cook yn ymuno â'r Bwrdd fel un o 10 aelod a ddetholwyd o bob rhan o'r DU. Bydd yn gwasanaethu ochr yn ochr ag academyddion uchel eu parch o sefydliadau sy'n cynnwys Coleg Imperial, Llundain, Ysgol Economeg Llundain, a phrifysgolion Bryste, Manceinion a Warwig.

Ac yntau’n ymchwilydd gweithredol iawn, mae'r Athro Cook wedi cyhoeddi mewn sawl disgyblaeth, gan gynnwys econometreg, economeg, mathemateg ac ystadegau. Mae ganddo sawl rôl olygu hefyd ar gyfer amrywiaeth o gyfnodolion.  Mae proffil ymchwil Steve yn ategu ei weithgareddau addysgu, ac mae wedi cyhoeddi deunyddiau addysgu ac ymchwil addysgegol yn aml, yn ogystal ag arwain gweithdai a chyflwyno i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Mae hefyd wedi derbyn cyllid gan yr Academi Addysg Uwch ar gyfer arloesi ym maes addysgu. 

O ganlyniad i'w effaith a'i ddylanwad cyson sy'n ymestyn y tu allan i'w sefydliad ei hun, mae Steve wedi derbyn dwy wobr addysgu genedlaethol, yn ogystal â bod yn un o nifer bach iawn o academyddion byd-eang i ennill cymrodoriaethau uchaf Advance HE a SEDA. 

Wrth siarad am ei rôl newydd, meddai'r Athro Cook: 

"Rwyf wrth fy modd yn cael cyfle i gynyddu fy ngwaith gyda'r Economics Network.   Mae'n sefydliad uchel iawn ei barch ac mae'n anrhydedd enfawr cael fy ngwahodd i fod yn aelod o'i Fwrdd Gweithredol."

Rhannu'r stori