Mae'r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn un o'r arolygon mwyaf o'i fath yn y byd ac mae'n tynnu sylw at farn myfyrwyr am ansawdd eu haddysg.

Mae'r arolwg yn gofyn i'r myfyrwyr am eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â'u profiad academaidd, gan gynnwys yr addysgu ar eu cwrs, eu hasesu, yr adborth, a pha mor dda mae cyrsiau'n cael eu trefnu.

Rydym wrth ein boddau i gyhoeddi bod Economeg ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyrraedd y 7fed safle yn y DU yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Dyma beth dywedodd yr Athro Steve Cook, Pennaeth yr Adran Economeg, am safle Abertawe:

"Rwy'n falch iawn o weld ein hadran mewn safle mor uchel yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr eleni.  Mae'n wych derbyn adborth mor gadarnhaol."

Rhannu'r stori