Emily running the London Marathon.

Dyfarnwyd Emily Marchant, sy’n ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Bencampwr Marathon Cymru 2023 ar ôl cwblhau Marathon Llundain TCS 2023 mewn dim ond 2 awr, 47 munud a 9 eiliad (2:47:09).

Mae Emily yn athletwr elît sy’n cystadlu’n rheolaidd mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau chwaraeon mawr, o Farathon Llundain i ddigwyddiadau treiathlon fel Ironman Cymru. Gyda hyn mewn cof, nid dyma’r tro cyntaf i Emily ymgymryd â her Marathon Llundain, gan iddi gystadlu’r llynedd a gorffen gydag amser o 2 awr, 50 munud (2:50). Golygai’r gamp hon fod Emily wedi cymhwyso ar gyfer Pencampwriaethau Marathon y DU, gan guro’r amser cymhwyso yn gyfforddus, sef 3 awr, 14 munud (3:14:00), a ganiataodd iddi gymryd rhan yn y categori elît yn 2023, a hithau oedd yr athletwr benywaidd cyntaf o Gymru i groesi’r llinell derfyn.

O ran cystadlaethau i ddod, mae Emily yn paratoi yn awr trwy ganolbwyntio llawer o’i hyfforddiant yn ei hamser sbâr ar Ironman Cymru, sy’n digwydd yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, bob blwyddyn.

Llongyfarchiadau i Emily ar y gamp aruthrol hon, a phob lwc i ti â’r digwyddiadau sydd i ddod!

Rhannu'r stori