Ystafelloedd Ymarfer Unigol

Mae ystafelloedd ymarfer unigol ar gael ar y ddau gampws. Mae pob ystafell yn cynnwys piano unionsyth, ac maent ar gael i bob myfyriwr rhwng 8am a 10pm bob dydd. Ni chodir tâl am ddefnyddio’r cyfleusterau, a gellir archebu lle ymlaen llaw os dymunir.

Os oes nam neu broblem yn yr ystafell, e-bostiwch roombookings@abertawe.ac.uk  tra ymchwilir i'r broblem, bydd yr ystafell ymarfer ar gau.

Mannau Perfformio

Lleoliad perfformio blaenllaw'r Brifysgol yw'r Neuadd Fawr, awditoriwm â 500 sedd gydag acwsteg gain ar Gampws y Bae. Mae'r Neuadd Fawr yn cynnal sawl perfformiad myfyrwyr bob blwyddyn. Yn ogystal â'r Neuadd Fawr, mae ein hensembles a'n corau yn perfformio'n rheolaidd ar gampws Singleton a mannau eraill yn Abertawe.

Mannau Ymarfer Grŵp

Mae ein hensembles a'n corau yn ymarfer ar gampws Singleton, yn Nhŷ Fulton.

Offerynnau

Yn ogystal â’r pianos yn yr ystafelloedd ymarfer, mae gennym biano cyngerdd Kawai i'w ddefnyddio gan ein hensembles a'n corau a chan nifer fach o fyfyrwyr sy'n chwarae'r piano ar lefel uwch. Mae'r Neuadd Fawr yn gartref i ddau biano cyngerdd sydd ar gael ar gyfer cyngherddau (Steinway Model D a phiano cyngerdd Yamaha bach), ac organ ddigidol tair-llaw Regent Classic.

Mae gan y Chymdeithas y Cerddorion amrywiaeth lawn o offerynnau cerddorfaol i'w defnyddio gan ein hensembles.

Cerddoriaeth Ddalen

Mae'r chymdeithasau myfyrwyr yn cynnal llyfrgell helaeth o setiau cerddorfaol, cerddoriaeth gorawl, band mawr, cerddorfa chwythbren a cherddoriaeth ensemble arall. Ychwanegir cerddoriaeth newydd i'r llyfrgell hon bob blwyddyn, gan roi cryn ryddid i'n hensembles a chorau wrth ddewis repertoire.

Cynhelir detholiad cymedrol o gerddoriaeth ddalen a llyfrau am gerddoriaeth yn llyfrgell y Brifysgol.