Peirianneg Fiofeddygol

Peirianneg Fiofeddygol yw’r ddisgyblaeth o gymhwyso egwyddorion peirianneg i'r corff dynol a'r peiriannau a'r offeryniaeth a ddefnyddir mewn gofal iechyd modern.

Rydym yn darparu graddau israddedig ar lefel BEng a MEng, gan gynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant yn ystod eich astudiaethau. Rydym hefyd yn lansio MSc mewn Peirianneg Fiofeddygol yn 2023. Mae hyn yn ategu ein rhaglen PhD i raddedigion gan dynnu ar ein cryfderau ymchwil ym maes Bioddadansoddeg, Bioddeunyddiau a Biomecaneg.

Mae ein graddedigion Peirianneg Fiofeddygol yn datblygu sgiliau peirianneg eang a chynhwysfawr, gan ennill gwybodaeth hanfodol am anatomeg a ffisioleg a phrofiad o’r maes, ynghyd â'r gallu i gyfathrebu â chlinigwyr.

Byddwch yn astudio mewn cymuned ymchwil ffyniannus ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’r ymchwil fiofeddygol gyffrous sy'n digwydd yn ein labordy Efelychu a Phrofi Peirianneg Fiofeddygol (BEST) yn llywio ein rhaglenni gradd. Mae hyn yn cysylltu prosiectau myfyrwyr â'r datblygiadau diweddaraf yn y maes ac mae’n sicrhau eu bod yn berthnasol i heriau clinigol cyfredol.

Mae gennym bortffolio eang o gysylltiadau diwydiannol a chyfleoedd cydweithio masnachol ym meysydd dylunio a modelu cyfrifiadol, datblygu prototeipiau a phrofi bioddeunyddiau. Mae graddedigion blaenorol wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd diddorol mewn cwmnïau megis Renishaw, Calon Cardio-Technology Ltd, Olympus Surgical Technologies, y GIG, GE Healthcare a'r Llynges Frenhinol.

Eight degrees of separation

Ymchwil

Cymerwch olwg ar ein Ymchwil Peirianneg

Mae Peirianneg Fiofeddygol wedi gael ei achredu gan…

Logo'r Engineering Council
Logo'r Institution of Mechanical Engineers
Logo'r Institute of Physics and Engineering in Medicine