Cyn-fyfyrwyr y Crwsibl 2018

Maria

"Mae’r cyfranogwyr a gwrddais yn y Crwsibl yn ddarpar arweinwyr uchelgeisiol, uc

Maria Sharmina, Darlithydd mewn Ynni a Rheoli Prosiect yng Nghanolfan Tyndall ar gyfer Ymchwil i Newid yn yr Hinsawdd yn Ysgol Perianneg Sifil, Awyrofodol a Mecanyddol, Prifysgol Manceinion   

"Mae agwedd amlddisgyblaethol y Crwsibl yn gryfder gwirioneddol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn cyfuno amrywiaeth o ddisgyblaethau yng ngofod yr economi digidol, felly roedd yn wych cwrdd ag ymchwilwyr mewn gwahanol feysydd. Mae’r cyfranogwyr a gwrddais yn y Crwsibl yn ddarpar arweinwyr uchelgeisiol, uchel-gyrhaeddol - roedd yn ysbrydoliaeth eithriadol, â’r cyfleoedd cydweithredu yn sylweddol.   

Mae’r profiad a gefais yn y Crwsibl yn cyfnewid syniadau, cydweithredu, rhwydweithio, wedi bod o fudd gwirioneddol o ran gloywi’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyrchafiad llwyddiannus, a gynigwyd i mi ers hynny.

Ers y Crwsibl, rwyf wedi dechrau gweithio ar sawl prosiect ymchwil newydd a ariennir gan Gynghorau Ymchwil y DU, gan gynnwys y Consortiwm Chwyldroi Ynni a’r prosiect Acwaddiwylliant Cynaliadwy."