Rhyngwynebau Ffotofoltäig

Bu’r Athro Cyswllt Matt Carnie yn cydweithredu gyda Chyfrifiadureg a Pheirianneg Defnyddiau, i weithio ar ymchwil i Ryngwynebau Ffotofoltäig.

Cefnogodd CHERISH-DE ymchwil ar draws disgyblaethau Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron a Pheirianneg Defnyddiau i arloesi technolegau sy’n cywain ynni o olau amgylchynol i ddyfeisiau symudol/pŵer-gysylltiedig megis Y Rhyngrwyd Pethau a gwrthrychau bob dydd. 

Meddai Dr Carnie: “Fel gwyddonydd defnyddiau, roedd y byd digidol ymhell tu hwnt i gwmpas fy maes ymchwil arferol. Cychwynnodd CHERISH-DE drafodaethau rhyngof i a sawl arbenigwr Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron. Yn ystod y trafodaethau hyn fe wnaethon ni sylweddoli fod y technolegau yr oeddwn i’n gweithio arnyn nhw - celloedd solar perovskite - yn ddelfrydol ar gyfer eu hintegreiddio i ddyfeisiau’r Rhyngrwyd Pethau digidol er mwyn eu gwneud yn hunanbweredig a rhyngweithiol hyd yn oed.

Roedd ein trafodaethau cychwynnol yn ffrwythlon, fe ysgrifennon ni gais a llwyddo i gael £900 mil gan EPSRC i archwilio dyfodol technolegau rhyngweithiol hunanbweredig. Cefnogodd CHERISH-DE ni drwy’r broses o ysgrifennu’r cais, gan ein cyflwyno i bartneriaid prosiect posibl, ac mae’n dal i’n cefnogi ni, gan ddod â chydweithredwyr newydd i’r prosiect trawsddisgyblaethol cyffrous hwn.” 

Mae’r prosiect yn cydweithio’n agos â phartneriaid diwydiannol gan gynnwys Google, Hewlett Packard a’r Sefydliad Technoleg Indiaidd, Bombay.