Zoe Fisher

Meddai Dr Zoe Fisher, Seicolegydd Clinigol yn Ysbyty Treforys yn Abertawe: “Mae cleifion gydag anafiadau i’r ymennydd yn defnyddio llawer ar dechnoleg, fel ffônau clyfar, ond nid oedden nhw’n defnyddio technoleg gynorthwyol o gwbl. Mae’r prosiect hwn wedi cael goblygiadau enfawr i’n defnyddwyr gwasanaeth: trwy ddod â’r cynllunydd â’r defnyddiwr yn nes at ei gilydd, mae’n fwy tebygol fod gan y defnyddwyr gynnyrch sy’n deall eu hanghenion.” 

“Mae wedi rhoi ychydig mwy o reolaeth i mi dros strwythur fy mywyd.” “Yn ystod y dydd byddai hwn yn fy atgoffa i drwy neges destun i gymryd fy nhabledi; roedd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i mi.” “Mae mynychu’r grŵp wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n dioddef o drawma i’r ymennydd, ac nad ydw i’n lloerig.”

Dyma rai o’r dyfyniadau o brofiad defnyddwyr o’r prosiect ‘Gwneud gydag Ystyr’, a arweiniwyd gan Dr Stephen Lindsay a Co-Is CoIs, Jeremy Tree ac Andrew Kemp, a wnaed yn bosibl gan gyllid CHERISH.

Meddai Stephen: “Mae’r prosiect yn galluogi pobl sydd wedi cael anaf i’r ymennydd i ddod labordy arbennig ym Mhrifysgol Abertawe i gynllunio ac adeiladu eu technoleg eu hunain, a rhoi cynnig ar y prototeipiau hyn yn eu cartrefi eu hunain. Roedd yn gyffrous iawn gan nad yw hyn yn rhywbeth yr ydym fel rheol yn gadael i bobl gyda phroblemau gwybyddol ei wneud.”

Mae enghreifftiau o’r hyn a gynlluniwyd gan gleifion yn cynnwys blychau meddyginiaeth y gellir ffitio gwahanol fathau o feddyginiaeth ynddynt, gyda negeseuon testun yn atgoffa pobl i gymryd y feddyginiaeth, ac offer i helpu defnyddwyr i roi plygiau mewn socedi, sy’n gallu bod yn anodd oherwydd problemau alinio gweledol.

Ers y cyllid cychwynnol, mae’r prosiect wedi sefydlu ‘Fab Lab’ o fewn Ysbyty Treforys ei hun, a gweledigaeth Zoe a Stephen yw i gleifion ymweld â chlinigau technoleg lle gallant ymweld â’r lab a gwneud eu cynlluniau eu hunain pan fo angen. 

Cip ar lwyddiant y prosiect:

  • Ceisiadau cyllid SUREs ac ESRC llwyddiannus i 3 myfyriwr PhD barhau â gwaith y prosiect
  • Cwblhaodd 2 fyfyriwr Meistr eu traethodau hir ar y prosiect
  • Papur Ffiniau mewn Seicoleg wrthi’n cael ei ysgrifennu
  • Cynhadledd Grŵp Anafiadau i’r Ymennydd De Orllewin Cymru 2017 “Gofodau gwneud: Creu eich technoleg eich hun ar ôl anaf i’r ymennydd” <http://www.swwbig.co.uk/wp-content/uploads/2016/03/SWWBIG-Brain-Injury-Conference-2017.pdf>
  • 2 thesis Meistr yn seiliedig ar y gwaith hwn
  • Bu 12 claf yn gweithio ar y prosiect hwn