pgr supervisors

Mae Arloesedd Cyfrifol (AC) wrth wraidd y Ganolfan Hyfforddiant Deothurol, i sicrhau bod ymchwil y ganolfan yn creu gwerth i'r gymdeithas mewn modd moesol a chyfrifol. Mae hyn yn unol â'n hagwedd 'pobl yn gyntaf' i arloesedd gwyddonol, yn gwneud i dechnolegau newydd weithio i'r gymdeithas heb achosi mwy o broblemau nag y maent yn eu datrys.

Mae canolbwyntio ar arloesedd cyfrifol yn ein galluogi ni i wella o ran rhagweld problemau, a chymryd i ystyriaeth y materion cymdeithasol, moesegol ac amgylcheddol ehangach, a gallu creu systemau hyblyg ac addasol i ymdrin â'r canlyniadau anfwriadol hyn.

Drwy ystyried gwerth ein hymchwil mewn modd holistig, gallwn weithio i gyflawni buddion cymdeithasol, moesegol, amgylcheddol, diwylliannol ac economaidd.             

Mae AC yn agwedd ar ein holl waith yn y ganolfan:

  • unioni canlyniadau ymchwil gyda disgwyliadau a gwerthoedd cymdeithas
  • cynnwys grwpiau rhanddeiliaid perthnasol a sicrhau cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb
  • ymgysylltu â'r cyhoedd, gyda ffocws ar addysg
  • cynnal moeseg dda ac arferion y llywodraeth drwy esblygu strategaethau AC

Mae goruchwylwyr academaidd yn gweithio'n agos â myfyrwyr i sicrhau bod AC yn cael ei fewnosod ym mhrosiectau ymchwil PhD - wrth wraidd bob cwestiwn ymchwil.

Rydym hefyd yn hyrwyddo ein dull gweithredu 'pobl yn gyntaf' gyda phartneriaid y diwydiant a digwyddiadau ymgysylltu, cynnwys rhanddeiliaid (nid yn unig partneriaid diwydiannol) o'r cychwyn cyntaf a gwrando ar eu pryderon/safbwyntiau.

Drwy siapio a choethi ein strategaethau a pholisïau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad, rydym yn ymroddedig i hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth gwell ymhlith ein carfan a chenedlaethau gwyddonwyr y dyfodol.