Y ‘ffenomen gymdeithasegol’ sef Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Crynodeb
Mae Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn ffenomen gymdeithasegol, oherwydd ei natur gamddealledig. Mae anghysondeb o ran gwybodaeth ddiffiniedig a phresenoldeb gwybodaeth anghywir ymhlith ymdrechion ymyrraeth. Mae'r papur hwn yn archwilio'r rheidrwydd i ddatblygu ymyrraeth addysgol Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, ac effaith niweidiol ASG mewn ansefydlogrwydd cydlyniant cymunedol. Mae canfyddiadau’r cyhoedd o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu casglu a’u hymchwilio i amlinellu’r mater hwn.
Cynhaliwyd astudiaeth ar-lein dros wythnos, gan gasglu cyfranogwyr o Gymru a Lloegr drwy’r cyfryngau cymdeithasol a recriwtio ar lafar. Dadansoddwyd 58 o ymatebion. Nododd 62.1% o'r cyfranogwyr eu bod yn fenywod, nododd 27.6% eu bod yn wrywod, nododd 5.2% eu bod yn anneuaidd, nododd 1.7% eu bod yn fenywod trawsryweddol, ac ni nododd y 3.4% sy'n weddill eu rhyw. Cymharwyd data meintiol yn ystadegol, tra bod data ansoddol wedi'i ddadansoddi'n thematig.
Gofynnodd yr astudiaeth gyfres o gwestiynau demograffig a chyd-destun-benodol. Wedi hynny, darparwyd tair astudiaeth achos ddamcaniaethol, gan ofyn i gyfranogwyr awgrymu ymyriadau priodol sy’n ymwneud â'r achosion. Darparwyd diffiniadau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar ôl yr astudiaeth gyntaf, i weld a oedd hyn yn effeithio ar ymatebion cyfranogwyr.
Doedd 93.1% o'r ymatebwyr ddim yn gwybod sut i roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda diffyg nodedig o wybodaeth ddiweddar am ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymyriadau ac adrodd. Roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn aml yn cael ei ddrysu ag ymddygiad troseddol. Roedd 89.7% yn teimlo bod ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) yn effeithio ar fywyd bob dydd o leiaf ‘ychydig bach’, gyda 20.7% yn nodi ‘llawer’. Roedd 93.1% yn teimlo bod eu gwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi gwella o leiaf ‘ychydig’ ar ôl darparu gwybodaeth ddiffiniol, gyda 27.5% yn nodi ‘llawer’. Y geiriau mwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd mewn awgrymiadau ar gyfer ymyrraeth oedd: ‘rhybudd’ (56); Gorchymyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASBO) ‘dealltwriaeth’ (28); ‘cymorth' (23); ‘ieuenctid (21)'; ‘cymuned (18); ‘troseddol(13); ‘niweidiol' (11). Yn ystod y dadansoddiad thematig, nodwyd, trafodwyd a dadansoddwyd naw thema wahanol o ran ymatebion y cyfranogwyr. Er enghraifft: ‘Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn aflonyddgar’, ‘nid yw ymyriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi’u personoli’n ddigonol’, ac ‘mae cydymdeimlad tuag at ymgysylltu ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhagfarnllyd.’ Defnyddiodd cyfranogwyr fwy o dermau ymyrraeth Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, fel ‘CPN’ a ‘gwaharddebau’, mewn ymatebion i astudiaethau achos 2 a 3 ar ôl darparu gwybodaeth bendant. Mae hyn yn awgrymu bod tynnu sylw at wybodaeth am Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn gwella gwybodaeth cyfranogwyr, gan ddylanwadu ar farn. Ar y cyfan, roedd camwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol a llai o ymwybyddiaeth yn gyffredin iawn ymhlith y cyhoedd, a bod gan ymyriadau addysgol digidol y potensial i wella problemau o'r fath.
Crëwyd model dylunio ymyrraeth foesegol (PECBR) o'r canlyniadau hynny. Mae'r model yn argymell y dylai dylunio a defnyddio ymyriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ystyried atal, personoli, empathi, addysg, cydweithio, ystyriaeth, cymuned, cydbwysedd a chyfrifoldeb mewn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae'r ymchwilydd yn dadlau dros ddilysu model PECBR, cynnal ymchwiliadau pellach i gamwybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol a mireinio a hygyrchedd gwybodaeth a diffiniadau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn well.
Download Rachel's thesis