An image of the EvEx logo which features English and Welsh text

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnal Hyb Cyfnewid Tystiolaeth (EvEx) Cymru

Gwella rhagoriaeth mewn llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth drwy gydweithredu cenedlaethol, datblygiad proffesiynol ac ymgymryd ag ymchwil.

Cysylltu gweision cyhoeddus a sifil â chymuned o ymchwilwyr o safon fyd-eang i ysgogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar draws y DU.

Mae Prifysgol Abertawe yn un o sylfaenwyr consortiwm Cyfnewid Tystiolaeth (EvEx) y DU, ac yn arwain y consortiwm yng Nghymru. Caiff y fenter fawr hon ei hariannu gan grant gwerth £3.75  miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC). Mae'r consortiwm, a arweinir gan y Ganolfan Gwyddoniaeth a Pholisi ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn dod â phrifysgolion a sefydliadau polisi ar draws y DU ynghyd. Ei nod yw cryfhau'r berthynas rhwng ymchwil a'r sector cyhoeddus, a helpu gweision sifil a chyhoeddus ar draws y DU i ddefnyddio tystiolaeth yn well yn eu gwaith.

Un o nodau allweddol EvEx yw ehangu galluedd ar draws cenhedloedd a rhanbarthau'r DU.

Mae hyn yn golygu cefnogi llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, nid yn unig yn genedlaethol ond mewn cyd-destunau lleol a datganoledig hefyd. Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd EvEx yn cydweithio â phartneriaid prosiect i gomisiynu gweithgareddau sydd â ffocws rhanbarthol a datblygu cymuned o ymarfer hirdymor ledled y DU, gan helpu ymchwilwyr a gweision sifil/cyhoeddus i gysylltu, ble bynnag y maen nhw.

Mae Prifysgol Abertawe'n arwain Hyb Cyfnewid Tystiolaeth Cymru, gan ddarparu canolbwynt ar gyfer ymgysylltu rhanbarthol yng Nghymru. Bydd yr hyb yn cefnogi gweision sifil a chyhoeddus ar bob lefel o'r llywodraeth drwy wella mynediad at arbenigedd ymchwil a chynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau polisi Cymru.