Cenhadaeth UN PRME yw trawsnewid addysg reolaeth a datblygu penderfynwyr cyfrifol y dyfodol i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Fel aelodau o PRME, mae'n rhaid i ni ddarparu tystiolaeth o ymrwymo i'r saith egwyddor ganlynol drwy adroddiad cynnydd blynyddol:
Egwyddor 1: Pwrpas - hyrwyddo addysg reolaeth gyfrifol i feithrin ffyniant cynhwysol mewn byd o ecosystemau ffyniannus.
Egwyddor 2: Gwerthoedd - rhoi cyfrifoldeb sefydliadol ac atebolrwydd i gymdeithas a'r blaned wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Egwyddor 3: Addysgu - trawsnewid ein hamgylcheddau dysgu drwy integreiddio cysyniadau ac arferion rheoli cyfrifol yn ein cwricwlwm a'n haddysgeg.
Egwyddor 4: Ymchwil - astudio pobl, sefydliadau, a chyflwr y byd i ysbrydoli ymarfer cyfrifol mewn rheolaeth ac addysg.
Egwyddor 5: Partneru - ymgysylltu â phobl o fyd busnes, llywodraeth, cymdeithas sifil, a'r byd academaidd i hyrwyddo addysg ac ymarfer cyfrifol ac atebol ym maes rheolaeth.
Egwyddor 6: Ymarfer - mabwysiadu egwyddorion rheoli cyfrifol ac atebol yn ein llywodraethiant a'n gweithrediadau ein hunain.
Egwyddor 7: Rhannu - rhannu ein llwyddiannau a'n methiannau â’n gilydd i hwyluso ein dysgu ar y cyd a byw ein gwerthoedd a'n pwrpas cyffredin gorau y gallwn.
Gweler yr adroddiad diweddaraf yma: Yr Ysgol Reolaeth - Prifysgol Abertawe | UNPRME