Fel rhan o ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd, rydym yn falch o gynnig ein cwrs E-ddysgu am yr Hinsawdd a Charbon, sydd ar-lein ac am ddim, i'n holl staff a myfyrwyr.
Mae'r cwrs byr ac ymarferol hwn wedi ei greu er mwyn cynnig dealltwriaeth ddyfnach o newid yn yr hinsawdd gan gynnig cyngor ac offer i leihau eich ôl troed carbon a chymryd camau ystyrlon yn eich bywyd personol a phroffesiynol.
Pam dylech chi gymryd rhan?
- Cefnogi nodau cynaliadwyedd: Helpu i lunio dyfodol mwy gwyrdd i'r Brifysgol a’r tu hwnt.
- Hybu eich proffil: Dangos arbenigedd ynghylch yr hinsawdd a charbon, ochr yn ochr â'ch cymwysterau.
- Dysgu ar eich cyflymder eich hun: Mae modiwlau hyblyg ar-lein yn eich galluogi i gwblhau'r cwrs ar adeg sy'n cyd-fynd â’ch amserlen.
Ymarferol ac Effeithiol
Mae'r cwrs yn cynnwys enghreifftiau o’r byd go iawn, cwisiau rhyngweithiol, ac adnoddau i ehangu eich dysgu. Drwy roi ychydig o’ch amser, byddwch yn ennill dealltwriaeth werthfawr a gwybodaeth y gallwch ei defnyddio i wneud gwahaniaeth go iawn.
Ardystiad a Chydnabyddiaeth: Ar ôl cwblhau'r cwrs, gofynnwch am dystysgrif ac e-fathodyn er mwyn dangos eich bod yn ymwybodol o'r hinsawdd a charbon.