Cylch Yr Abaty 1920

Eich cefnogaeth chi. Ein diolchiadau ni.

Mae'ch cefnogaeth chi yn hynod bwysig i'r Brifysgol, ac rydym wrth ein boddau i gydnabod hynny drwy'ch gwahodd i ymuno â Chylch yr Abaty 1920. Mae'r Cylch yn cydnabod y rhai hynny sy'n gwneud y penderfyniad ysbrydoledig i gofio'r Brifysgol yn eu hewyllys. 

Mae Cylch yr Abaty 1920, sy'n cyfeirio at Abaty Singleton ar gampws Singleton y Brifysgol, yn adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol y Brifysgol sy'n dyddio'n ôl i 1920 pan gafodd ei sefydlu gyntaf. Yn ystod y 19eg ganrif, daeth Abertawe'n brif ganolfan diwydiant a masnach, a'i phorthladd yn ddrws i'r byd. Daeth yr Abaty'n rhan o Prifysgol Abertawe yn ystod y 1920au ac roedd yn un o ddau adeilad yn unig ar y campws yn ystod y 1940au. Mae'r Abaty'n adlewyrchu twf a datblygiad y Brifysgol dros y blynyddoedd i gampws deuol a sefydliad amlddisgyblaethol.