Mae Prifysgol Abertawe’n codi arian i'r rhai hynny sy'n ffoi rhag gwrthdaro i ddod o hyd i le diogel i astudio yn Abertawe. Gall pob rhodd, ni waeth pa mor fawr neu fach, helpu myfyrwyr fel y rhain i ddod o hyd i sefydlogrwydd, a dysgu a thyfu fel y gallant roi eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u gwydnwch ar waith pan ddaw'r adeg iddynt ailadeiladu eu cartrefi'n fwy ac yn well nag o'r blaen.

Gallai £1,000 gynnig rhwyd ddiogelwch i fyfyriwr mewn argyfwng. 

Gallai £5,000 ariannu bwrsariaeth deithio i fyfyriwr sy’n ffoi rhag gwrthdaro. 

Gallai £12,000 ariannu ysgoloriaeth am radd meistr. 

Gallai £36,000 ariannu ysgoloriaeth israddedig dros dair blynedd.