Un o gyfleusterau diweddaraf Adran y Cyfryngau yw Swît y Cyfryngau Creadigol. Mae'r Swît yn cynnwys labordy cyfrifiaduron a stiwdio fideo. Mae'r labordy'n cynnwys 29 o gyfrifiaduron iMac. Mae meddalwedd safon diwydiant wedi'u gosod ar y gorsafoedd gwaith hyn, gan gynnwys Final Cut Pro X ac Adobe Creative Cloud.