Engineering lab

Peirianneg o Safon Fyd-eang

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe i gefnogi'r diwydiant gweithgynhyrchu yn ôl ym 1920 ac mae'n parhau i wneud hyn heddiw gan gydweithio â rhai o ddiwydiannau mwyaf y DU i arwain y ffordd ym maes Deunyddiau Uwch a Gweithgynhyrchu. Mae ein canolfannau ymchwil o safon fyd-eang, sydd ymysg y 10 orau yn y DU, yn meddu ar arbenigedd yn y meysydd canlynol: y datblygiadau diweddaraf mewn deunyddiau; cyrydu a chaenau; ynni adnewyddadwy, roboteg ac awtomatiaeth; modelu cyfrifiadol; a'r technegau gweithgynhyrchu diweddaraf. Arweinir ymchwil gan y Coleg Peirianneg, ar ein campws newydd yn y Bae a ddatblygwyd yn sgil buddsoddiad o £450 miliwn. Mae pedwar adeilad wedi'u neilltuo i beirianneg lle ceir cyfarpar ymchwil ac addysgu newydd gwerth £10 miliwn. Yr wybodaeth a'r profiad helaeth hyn sy'n galluogi Prifysgol Abertawe i arwain y ffordd wrth ledaenu ein hymchwil drwy ein haddysgu a'n modiwlau DPP.

Logo Academi deunyddiau a gweithgynhyrch M2A

Yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A)

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) yn darparu hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig dan arweiniad diwydiant ym meysydd deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu.

Mae M2A yn gyfrwng perffaith i gwmnïau sy'n dymuno cydweithredu â'r Brifysgol ar bwnc ymchwil o'u gwneud ac ar gyfer cwmnïau sy'n dymuno tyfu eu gweithwyr medrus eu hunain yn y dyfodol.

Wedi'i ariannu'n llawn gan WEFO, EPSRC a diwydiant. mae M2A yn darparu 24 o leoedd EngD ac 8 lle ymchwil MSc y flwyddyn ynghyd â PhD rhan-amser a meistri. Mae'r cronfeydd yn darparu lwfans byw'n iach i'r peirianwyr ymchwil, gan gael gwared ar unrhyw rwystr ariannol i'n myfyrwyr disgleiriaf i astudio ôl-raddedig.