Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi ar eich Diwrnod Agored!

Rydym yn gyffrous iawn i'ch croesawu i Brifysgol Abertawe a'ch helpu i ddarganfod sut beth yw byw ac astudio yma. Dyma'ch cyfle i archwilio ein campws, cwrdd â myfyrwyr presennol, a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud penderfyniad gwybodus am eich dyfodol.

Er mwyn eich helpu i wneud y gorau o'ch ymweliad, rydym wedi llunio popeth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi gyrraedd. Cymerwch olwg ar y wybodaeth isod a dechreuwch gynllunio'ch diwrnod.

Cyrraedd yma

Y campws o'r awyr.

Pa gampws sy'n gartref i'ch sgwrs bwnc?

Mae'n bwysig cofio bod gan Brifysgol Abertawe ddau gampws: Campws Parc Singleton a Champws y Bae.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio ym mhle y bydd eich sgwrs am eich pwnc yn cael ei chynnal fel rydych yn gwybod ble i fynd. 

Ewch i'r campws cywir
Trên yn cyrraedd.

Trafnidiaeth - cyrraedd yma mewn car, coets neu drên.

Gall Diwrnodau Agored olygu meysydd parcio prysurach ac ychydig o draffig.

I’ch helpu i gynllunio’ch taith, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am barcio a theithio ar ein tudalen Trafnidiaeth ar Ddiwrnod Agored.

Trafnidiaeth

Mynd o gwmpas y campws

Amserlen y diwrnod

Beth sy'n digwydd ar ôl cyrraedd?

Bydd ein staff hyfryd a'n Llysgenhadon Myfyrwyr yno i'ch croesawu a'ch tywys i'ch gweithgaredd nesaf drwy gydol y dydd.

  • 12:00: Mae'r Cofrestru'n Agor
  • 13:00: Cyflwyniad yn croesawi chi i Prifysgol Abertawe
  • 13:30: Cwrdd â chynrychiolwyr pwnc/adran
  • 14:30: Cyfle i deithio o amgylch ein campws a gweld ein llety
  • 16:00: Diwedd y diwrnod
Menyw croesawgar ar Diwrnod Agored

Opsiynau arlwyo

Yr wythnos

Bydd y mannau arlwyo canlynol ar agor:

Campws Singleton
Lle bwyta Amserau agor
Harbwr 8yb - 4yh
Greggs 8yb - 4yh
Taliesin 8yb - 3yh
Campws y Bae
Lle bwyta Amserau agor
Hideaway Coffee Counter/DK 8yb - 4yh
Hideaway Food Counters 8yb - 4yh
Subway 10yb - 6yh

 

Y penwythnos

Archwilio Gostyngiadau lleol

Archwilio Abertawe

Popeth sydd gan Abertawe i'w gynnig

O'r sîn gerddoriaeth, i'n clybiau chwaraeon a'n cymdeithasau i'n hoff fannau awyr agored. Edrychwch ar ein tudalen ar pob peth i'w ddarganfod yn Abertawe.

Y ddinas ger y môr
Myfyrwyr yn sefyll am llun ar y traeth.